Neidio i'r cynnwys

Trychineb Vargas

Oddi ar Wicipedia
Trychineb Vargas
Enghraifft o:trychineb Edit this on Wikidata
DyddiadRhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
Lladdwyd27,500 ±23000, 20,000 ±10000 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
LleoliadLa Guaira state Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthLa Guaira state Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0dm0jd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o'r awyr sydd yn dangos difrod i ardal Caraballeda. Ar y chwith gwelir prif lwybr y llithriad a'r gwaddodion o gerrig mae wedi ei gadael.

Tirlithriadau a darodd talaith Vargas, Feneswela, ar 14–16 Rhagfyr 1999 gan ladd rhwng 10,000 a 30,000 o bobl oedd trychineb Vargas.

Dros deng niwrnod ym mis Rhagfyr, dymchwelodd glawogydd trymion ar fynyddoedd Feneswela. Effeithiodd fwyaf ar yr ardaloedd arfordirol yng ngogledd y wlad, wrth i'r glaw achosi llifoedd sydyn o laid. Yn ogystal â'r tirlithriadau, effeithwyd yr ardal gan lifogydd trymion.

Mor gynnar â 6 Rhagfyr, datganwyd argyfwng yn nhalaith Vargas a chafodd tua 190,000 o bobl eu symud. Er yr ymdrechion, cafodd nifer fawr o bobl eu lladd wrth i'r llithriadau mwd a llifogydd chwalu slymiau a threfi cytiau'r ardal.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Venezuela mud slides of 1999. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Awst 2017.