Neidio i'r cynnwys

Trychineb Rheilffordd Trehopcyn

Oddi ar Wicipedia
Trychineb Rheilffordd Trehopcyn
Enghraifft o:damwain trên Edit this on Wikidata
Dyddiad23 Ionawr 1911 Edit this on Wikidata
Lladdwyd11 Edit this on Wikidata
LleoliadTrehopcyn Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Ar Ddydd Llun 23 Ionawr 1911, bu gwrthdrawiad ar Reilffordd Cwm Taf rhwng trên glo disymud a thrên teithwyr yn Nhrehopcyn, Rhondda Cynon Taf (Sir Forgannwg bryd hynny). O ganlyniad, collwyd 11 o fywydau, gyda nifer mwy wedi'u hanafu[1] (deuddeg yn ôl yr adroddiad swyddogol).[2] Gelwir y digwyddiad yn Drychineb Rheilffordd Trehopcyn — er mai dyma'r ail drychineb yn Nhrehopcyn wedi i ddamwain gyntaf a thebyg ym mis Hydref 1878.[3]

Roedd Trychineb Rheilffordd Trehopcyn yn ddigwyddiad allweddol yn hanes diwygio diogelwch rheilffyrdd yng Nghymru a Phrydain, yn arbennig o ran newidiadau datblygu signalau a'r arferion cyffelyb. Canfu'r ymchwiliad swyddogol taw camgymeriad oedd wedi achosi’r ddamwain, gan fod signal ar gyfer y trên teithwyr i fyned i’r orsaf wedi'i arddangos er nad oedd y trac yn glir, gan fod y trên glo heb adael. Tynnodd y ddamwain sylw at beryglon system signal â llaw, yr angen am systemau bloc mwy dibynadwy gyda'r gall i gyd-gloi, a phwysigrwydd gwelededd effeithiol ar draciau crwm.

Mae'r ddamwain hon hefyd yn adlewyrchu cynnydd dramatig ffotograffiaeth y wasg,a chyfnod pan oedd damweiniau rheilffordd yn ddigwyddiadau newyddion cenedlaethol mawr. Cafodd ffotograffwyr eu hanfon i'r lleoliad ar frys — sy’n esbonio pam mae cymaint o ddelweddau o'r ddamwain yn bodoli — yn gyfochr â'r ffaith bod angen cofnodion gweledol ar ymchwiliadau damweiniau rheilffordd.

Mae'r lleoliad yn rhan o Lwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), "Rheilffyrdd", t.803
  2. Board of Trade; Lt Col E. Druitt (1911). Report on the fatal collision that occurred on the 23rd January, 1911 (PDF). HMSO.
  3. Hopkinstown rail disaster Archifwyd 5 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback Rhondda Cynon Taf, library service