Trust (rhaglen deledu 2018)

Oddi ar Wicipedia

Mae Trust yn gyfres deledu drama antur Americanaidd, a grëwyd gan Simon Beaufoy a gafodd ei ddarlledu am y tro cyntaf ar 25 Mawrth, 2018 ar y sianel deledu Americanaidd FX. Cafodd ei ddarlledu yn y Deyrnas Unedig gan BBC 2[1] gyda'r darllediad cyntaf ar 12 Medi 2018. Mae'r tymor cyntaf yn un o 10 bennod, a ysgrifennwyd gan Beaufoy a'i gyfarwyddo gan Danny Boyle ac eraill. Maer storï wedi'i osod ym 1973 ac mae'n adrodd hanes herwgipio John Paul Getty III, un o aelodau'r teulu busnes olew Getty Oil, yn yr Eidal.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r Trust yn dilyn hynt a helynt un o deuluoedd cyfoethocaf ond mwyaf anhapus America, y teulu Getty. Dros gyfnod sylweddol o'r 20fed ganrif. Mae'r gyfres yn cychwyn ym 1973 gyda herwgipio John Paul Getty III, edling ffortiwn olew Getty, gan y maffia Eidalaidd yn Rhufain.

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

Prif[golygu | golygu cod]

Cylchol[golygu | golygu cod]

Ymddangosiad arbennig[golygu | golygu cod]

Penodau[golygu | golygu cod]

(Bydd yr adran hon yn cael ei ddiweddaru wrth i'r penodau cael eu darlledu am y tro cyntaf yng Nghymru)
Pennod Rhif Teitl Cyfarwyddwr Awdur
1 The House of Getty Danny Boyle Simon Beaufoy
Crynodeb: Yn dilyn hunanladdiad George Getty, mae J. Paul Getty yn chwilio am etifedd i'w fusnes olew, Cwmni Olew Getty. Mae'n cwrdd â'i ŵyr J. Paul Getty III ac yn ei ddangos o gwmpas ei fusnes. Tra yn yr Eidal, mae J. Paul Getty III yn cael ei herwgipio gan gangsters dan arweiniad Primo.
2 Lone Star Danny Boyle Brian Fillis & Simon Beaufoy
Crynodeb: Mae J. Paul Getty yn anfon ei bennaeth ddiogelwch, James Fletcher Chace, i'r Eidal i ymchwilio i ddiflaniad J. Paul Getty III. Er mwyn sicrhau nad oes neb arall yn ei deulu yn cael eu herwgipio, mae J. Paul Getty yn rhoi bariau ar draws ffenestri ei blasty ac mae'n cynghori ei berthnasau i logi gwarchodwyr cyrff i'w hamddiffyn os ydynt yn cael eu targedu.
3 La Dolce Vita Danny Boyle Simon Beaufoy
Crynodeb: Cyn ei herwgipio, roedd J. Paul Getty III yn mwynhau ei amser yn yr Eidal. Yn y presennol, mae Primo a'i gynghreiriaid yn clywed bod J. Paul Getty yn gwrthod talu'r pridwerth gan ei fod yn credu bod yr herwgipiad yn ffug. Mae Primo yn hysbysu ei ewythr Don Salvadore am ei blaniau, mae'r ewyrth cytuno i'w gynorthwyo.
4 That's All Folks Dawn Shadforth Simon Beaufoy & John Jackson
Crynodeb:
5 Silenzio Dawn Shadforth Alice Nutter
Crynodeb:
6 John, Chapter 11 Jonathan van Tulleken Simon Beaufoy & Harriet Braun
Crynodeb:
7 Kodachrome Jonathan van Tulleken Simon Beaufoy & Brian Fillis
Crynodeb:
8 In the Name of the Father Emanuele Crialese Simon Beaufoy & John Jackson & Alice Nutter
Crynodeb:
9 White Car in a Snowstorm Susanna White Alice Nutter
Crynodeb:
10 Consequences Susanna White Simon Beaufoy & Alice Nutter
Crynodeb:

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Datblygiad[golygu | golygu cod]

Ar 9 Mawrth, 2016, cyhoeddwyd bod FX wedi archebu cyfres ar gyfer y tymor cyntaf yn cynnwys deg pennod. Datblygwyd y gyfres yn FX oherwydd cytundeb "cip cyntaf" rhwng Danny Boyle a'r rhwydwaith. Disgwylid i Boyle gynhyrchu'r gyfres ochr yn ochr â Simon Beaufoy a Christian Colson. Disgwylid i Beaufoy hefyd ysgrifennu'r gyfres a disgwylid i Boyle gyfarwyddo. Mae'r cwmnïau cynhyrchu cysylltiedig â'r gyfres yn cynnwys FX Productions, Cloud Eight Films, Decibel Films, a Snicket Films Limited.[3][4]

Castio[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddwyd bod Donald Sutherland a Hilary Swank wedi ymuno â'r prif gast yn rolau J. Paul Getty a Gail Getty. Ar Fai 15, 2017, dywedwyd bod Harris Dickinson wedi cael ei gastio i chware'r brif ran - John Paul Getty III.[5] Ym mis Mehefin 2017, ymunodd Brendan Fraser a Michael Esper â'r cynhyrchiad fel cymeriadau rheolaidd y gyfres yn chware rannau James Fletcher Chace a John Paul Getty II. Yn ogystal, cyhoeddwyd bod Veronica Echegui wedi cael ei chastio ar gyfer rôl achlysurol.[6][7] Ar 14 Gorffennaf, 2017, cyhoeddwyd bod Hannah New wedi ymuno â'r cast fel cymeriad rheolaidd.[8] Rhoddwyd rôl ymddangosiad arbennig i'r comedïwr o Faglan, Rob Brydon yn chware ran Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon.

Ffilmio[golygu | golygu cod]

Cychwynwyd ffilmio'r gyfres yn Rhufain yn 2017.[9]

Rhyddhau[golygu | golygu cod]

Dadleuon[golygu | golygu cod]

Ar 16 Mawrth, 2018, adroddwyd bod Ariadne Getty, chwaer John Paul Getty III, yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn FX a chynhyrchwyr y gyfres. Rhyddhaodd ei chyfreithiwr, Martin Singer, ddatganiad yn galw'r gyfres yn "bortread ffug, gwyllt, cyffrogarol" o’r teulu Getty. Dywedodd "Mae'n eironig eich bod wedi enwi eich cyfres deledu yn ''trust'' (ymddiriedaeth). Teitl mwy addas byddid ''Celwydd'' neu ''diffyg ymddiriedaeth''. Hawliodd bod y stori yn difenwi'r teulu Getty trwy honni bod aelodau o'r teulu wedi bod yn rhan o'r cynllwyn herwgipio. Honiad enllibus a chamarweiniol, yn ôl y cyfreithiwr, sydd yn difenwi’r teulu trwy wneud honiad ffug eu bod wedi bod yn rhan o drosedd difrifol.[10][11][12]

Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd Simon Beaufoy bod ei benderfyniad i ddarlunio Getty fel un oedd a rhan yn y cynllwyn yn cael ei gyfiawnhau gan ei ymchwil i'r mater. Er nad oes un o'r bywgraffiadau yn datgan hyn yn glir, dwedodd bod darllen rhwng llinellau cofiant Charles Fox Uncommon Youth, yn awgrymu'n gryf bod Paul III, mewn gwirionedd, wedi herwgipio ei hun."[13] Yn ôl ei theori, aeth y plan allan o reolaeth Paul pan wrthododd ei daid i dalu'r pridwerth, gan achosi i nifer o'r man droseddwyr oedd yn rhan o'r cynllwyn gwreiddiol, i werthu eu diddordeb i syndicâd maffia didostur..[13]

Cyfres newydd[golygu | golygu cod]

Wrth drafod y gyfres mewn cynhadledd i feirniaid teledu ar 5 Ionawr, 2018,dywedodd Simon Beaufoy bod cynlluniau rhagarweiniol ar y gweill i greu ail gyfres. Roedd yn hoffi'r syniad o gyfres sy'n mynd 'nol i'r 1930au i ddarganfod sut y daeth John Paul Getty I yn berson eithriadol gyda thwll enfawr yn ei enaid. Mynegodd ei falchder efo'r derbyniad cafodd y gyfres gyntaf a dywedodd bod ganddo ddiddordeb mewn dychwelyd am gyfresi olynol.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Danny Boyle’s John Paul Getty drama Trust to air on BBC2 adalwyd 29 Awst 2018
  2. Petski, Denise (January 5, 2018). "FX Sets 'Atlanta' & 'The Americans' Return Dates, 'Trust' Premiere – TCA". Deadline. Penske Business Media, LLC. Cyrchwyd 29 Awst 2018, 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. Patten, Dominic (Awst 9, 2016). "FX Picks Up Getty Family 'Trust' Drama From 'Slumdog Millionaire' Team". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  4. Evans, Greg (April 26, 2017). "Hilary Swank Joins FX's Getty Kidnapping Saga 'Trust'". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  5. Petski, Denise (May 15, 2017). "'Trust': Harris Dickinson To Star As J. Paul Getty III In FX Limited Series". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  6. Evans, Greg (June 1, 2017). "Brendan Fraser Joins FX's Getty Kidnapping Drama 'Trust'". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  7. Petski, Denise (June 21, 2017). "'Trust': Michael Esper To Co-Star In FX Getty Drama Series; Veronica Echegui To Recur". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  8. Petski, Denise (July 14, 2017). "'The Dangerous Book For Boys' Casts Kyan Zielinski; Hannah New Joins 'Trust'". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.
  9. Murray, Rebecca (Awst 20, 2018). "'Trust' – Laura Bellini and Sarah Bellini Interview on FX's New Getty Kidnapping Series". Showbiz Junkies. Cyrchwyd Awst 26, 2018.
  10. Chmielewski, Dawn C. (Awst 16, 2018). "Getty Family Member Calls FX's 'Trust' "Wildly Sensationalized False Portrayal", Warns Of Legal Action". Deadline. Cyrchwyd Awst 17, 2018.
  11. Nakamura, Reid (Awst 16, 2018). "Getty Lawyer Accuses FX's 'Trust' of 'Cruel and Mean-Spirited' Defamation". The Wrap. Cyrchwyd Awst 17, 2018.
  12. Cullins, Ashley (Awst 16, 2018). "Getty Family Member Says FX Series 'Trust' Is Defamatory, Threatens Legal Action". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Eldridge Industries, LLC. Cyrchwyd Awst 17, 2018.
  13. 13.0 13.1 Julie Miller (2018-04-08). "Trust: Did Paul Getty Really Stage His Kidnapping, as 'Trust' Suggests?". Vanity Fair. Cyrchwyd 2018-04-09.
  14. D'Alessandro, Lisa de Moraes,Anthony (January 5, 2018). "'Trust' EP/Screenwriter Gives Glimpse Of Season 2 Details On J. Paul Getty Series". Deadline. Cyrchwyd Awst 15, 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]