Neidio i'r cynnwys

True West (drama)

Oddi ar Wicipedia
True West
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSam Shepard Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1981 Edit this on Wikidata
Genredrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afSan Francisco Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af10 Gorffennaf 1980 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Saesneg gan y dramodydd o Unol Daleithiau America, Sam Shepard, yw True West a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Iestyn Llwyd a Sian Summers o dan yr enw Tua'r Gorllewin. Mae'r ddrama'n dilyn y gystadleuaeth rhwng y brodyr Austin a Lee sydd wedi ymddieithrio, ac sy'n ailgysylltu yn ystod y ddrama. Mae'r ddrama wreiddiol wedi'i lleoli yng Nghaliffornia, tua 20 milltir y tu allan i Los Angeles wrth droed Dyffryn San Gabriel, yng nghartref eu mam. Mae'r ddrama'n adnabyddus am y modd y mae'n archwilio themâu fel dynameg teuluol, hunaniaeth, a'r Freuddwyd Americanaidd.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Shepard Cyfieithiad Cymraeg Disgrifiad
Austin Alun sgriptiwr o Hollywood sydd wedi'i addysgu ac yn briod a phlant / sgriptiwr S4C yn y fersiwn Gymraeg
Lee Gruff dafad ddu y teulu, lleidr a brawd hŷn Austin
Mom Mam mam y ddau lanc
Saul Kimmer Dafydd Prys-Jones cynhyrchydd o Hollywood yn y gwreiddiol / cynhyrchydd S4C yn y cyfieithiad

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Hanes dau frawd mewn bwthyn diarffordd ar gyrion y ddinas - un a’i fryd ar gwblhau ei ffilm fawr gyntaf a’r llall am ennill ei arian drwy ddirgel ffyrdd. Gyda’r fam i ffwrdd ar ei gwyliau, mae’r ddau frawd yn ail-gynefino â’i gilydd gan brofi cryfderau a gwendidau’r naill a’r llall.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Mae sawl cynhyrchiad o'r ddrama wreiddiol wedi'i lwyfannu gyda actorion enwog yn portreadu'r cymeriadau.

Cymeriad Off-Broadway debut

(1980)

West End debut

(1981)

Steppenwolf Theatre

(1982)

West End revival

(1994)

Broadway debut

(2000)

West End revival

(2018)

Broadway revival

(2018)

Lee Peter Boyle Bob Hoskins John Malkovich Mark Rylance Philip Seymour Hoffman Johnny Flynn Ethan Hawke
Austin Tommy Lee Jones Antony Sher Gary Sinise Michael Rudko John C. Reilly Kit Harington Paul Dano
Mom Laurie Metcalf Anne Dyson Margaret Thomson Lynsey Baxter Celia Weston Madeleine Potter Marylouise Burke
Saul Paul McBurney Tim Wylton Sam Schact Michael Rouse Robert LuPone Donald Sage Mackay Gary Wilmes

Llwyfannwyd y cyfaddasiad Cymraeg gan y cwmni theatr newydd-anedig Cwmni Sgraps ym 1997. Grant prosiect gan Gyngor y Celfyddydau fu’n gyfrifol am sefydlu’r cwmni, gyda’r bwriad i gyflwyno "cynyrchiadau deinamig cyfoes i genhedlaeth newydd o fynychwyr theatr".[1]

Mewn adolygiad o'r ddrama gan Paul Griffiths yn Golwg [1 Hyd 1997] nododd bod "yr addasiad ar y cyfan yn taro deuddeg. ‘Roedd gen i fy amheuon wrth gyrraedd y theatr a fyddai posib i ymgorffori talp o fywyd Americaniadd i’r Gymraeg. Yn y ddrama wreiddiol, mae defnydd helaeth o effeithiau sain (eto at bwrpas arbennig) - sŵn pryfed tân a’r ‘coyotes’ i roddi naws y gorllewin gwyllt. Sŵn brefiadau’r defaid a gafwyd, a hynny’n ychwanegu at ddyhead y ddau i gael dianc ‘Tua’r Gorllewin’ [Cymru]"[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Griffiths, Paul (1997-10-01). "'Tua'r Gorllewin'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-12-18.