Neidio i'r cynnwys

Troedrhiw'r-fuwch

Oddi ar Wicipedia
Troedrhiw'r-fuwch
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Sirol Caerffili, Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.72794°N 3.26105°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO1304 Edit this on Wikidata
Map

Pentref gwag yw Troedrhiw'r-fuwch ("Cymorth – Sain" ynganiad ; hefyd Troedrhiwfuwch neu Troedy ar lafar).[1] Mae yn rhan o Fwrdeisdref Sirol Caerffili ac yn eistedd o fewn cymuned Tredegar Newydd.[2] Cyn i'r siroedd gael eu hail-drefnu ym 1974, roedd yn rhan o'r hen Sir Forgannwg.

Mae Troedrhiw'r-fuwch oddeutu 18 milltir o Gaerdydd, a'r dref agosaf yw Rhymni (2 filltir). Y ddinas agosaf yw Casnewydd.

Sefydlwyd y pentre yn yr 1850au fel cymuned ar gyfer gweithwyr glo yr ardal. Roedd y pentre yn cynnwys capel, tafarn, siopau, swyddfa post ac ysgol. Ar ei anterth roedd 100 o dai a 600 o drigolion yn byw yno.[3]

Yn 1906 cafwyd yr adroddiadau cyntaf am y peryglon o dir-lithriadau o'r mynydd uwchben y pentre. Erbyn yr 1970au roedd y cyngor lleol yn ofni y gallai tir-lithriad mawr ddinistrio y pentre a pheryglu bywyd. Fe ail-leolwyd y trigolion ac erbyn 1985 fe ddymchwelyd rhan fwyaf o'r tai. Dim ond dau dŷ sy'n sefyll yno heddiw.[4]

Mae symudiad y tir yn cael ei fonitro ers 2014. Yn dilyn tywydd gwael yn 2020, dywedir fod y llithriad yn un 'gweithredol'. Mae'r symudiad hefyd yn bygwth prif ffordd yr A469 sy'n rhedeg drwy'r ardal ac mae gwaith yn cael ei wneud i ddiogelu y ffordd erbyn 2028.[5]

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir Troedrhiw'r-fuwch yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Gerald Jones (Llafur).[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Troedrhiw'r-fuwch". www.comisiynyddygymraeg.cymru. Cyrchwyd 2026-01-05.
  2. StreetCheck. "Gwybodaeth defnyddiol am yr ardal yma". StreetCheck (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-23.
  3. "Vanished Wales: Remembering Troedrhiwfuwch, the village lost to a moving mountain". ITV Cymru Wales. 31 Mawrth 2023. Cyrchwyd 2026-01-04.
  4. "War memorial left in abandoned Troedrhiwfuwch village". BBC News (yn Saesneg). 2015-05-07. Cyrchwyd 2026-01-04.
  5. "Pryderon tirlithiad i gau ffordd yr A469 am ddwy flynedd". BBC Cymru Fyw. 2026-01-05. Cyrchwyd 2026-01-05.
  6. "Dod o hyd i Aelod o'r Senedd". senedd.cymru. Cyrchwyd 2022-08-23.
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato