Trigonometry (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia

Drama arloesol wyth-rhan a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar nosweithiau Sul ar sianel BBC2 yn y DU yng Ngwanwyn 2020. Mae'r ddrama wedi ei selio ar hanes perthynas tri oedolyn yn eu tridegau cynnar yn Llundain. Mae cymeriad Kieran, sy'n barafeddyg yn barter i Gemma, sy'n berchennog ar gaffi annibynnol lleol. Mae anesmwythder o fewn perthynas y ddau ar y cychwyn oherwydd si am gyn-berthynas lesbiaiddd/deu-rywiol gan Gemma, a'i hanfodlonrwydd o gytuno i briodi Kieran.

Oherwydd fod y ddau'n cwffio i gadw ddau ben llinyn ynghyd yn ariannol, mae'nt yn penderfynu rhentu ystafell yn eu fflat bach ac yma daw'r trydydd brif aelod o'r ddrama i fodoli, Ray. Mae Ray ar y dechrau yn brwydro i ddod i ymafael a bywyd yn dilyn terfyn annisgwyl ar ei gyrfa fel nofiwr cydamserol proffesiynol.

Bu i Ray yngartrefu'n fuan a buan iawn daw bywyd y tri'n agosach at ei gilydd a daw cyfnod lletchwith lle mae'r tri'n cadw eu gwir-teimladau am ei gilydd yn gudd. Daw pethau i ben yn ystod priodas Kieran a Gemma pryd mae Ray yn penderfynu gadael am na allai guddio'i theimladau mwyach. Yn ystod parti eu priodas mae Gemma a Kieran yn cyfaddau eu teimladau tuag at Ray ac yn ystod ail hanner y gyfres daw Ray'n ei hol a daw'r tri i gydnabod eu teimladau am ei gilydd, a mae'nt yn penderfynu byw fel triawd (thrupple).

Mae'r ddrama'n archwilio agweddau cymdeithasol tuag at aml-garu mewn naratif sydd yn gymeradwyol o wahanol rywioldebau a pherthnasau mewn cymdeithas.

Prif gymeriadau[golygu | golygu cod]