Triawd piano

Oddi ar Wicipedia

Ensemble cerddorol sy'n cynnwys pianydd, feiolinydd a sielydd yw triawd piano. Defnyddir yr enw hefyd i gyfeirio at gyfansoddiad a ysgrifennwyd i'w berfformio gan grŵp o'r fath. Ysgrifennwyd enghreifftiau nodedig o driawdau piano gan Wolfgang Amadeus Mozart, Ludwig van Beethoven, Franz Schubert, Robert Schumann, Johannes Brahms, Antonín Dvořák, Gabriel Fauré, Maurice Ravel ac eraill.