Triaglog gyffredin
| Triaglog gyffredin (Valeriana officinalis) | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Dipsacales |
| Teulu: | Caprifoliaceae (neu Valerianaceae) |
| Genws: | Valeriana |
| Rhywogaeth: | V. officinalis |
| Enw deuenwol | |
| Valeriana officinalis L. | |
Perlysieuyn blodeuol ydy'r Triaglog gyffredin (Lladin: Valeriana officinalis; Saesneg: Valerian) gyda blodau gwyn neu binc persawrus. Gelwir triaglog yn "llysiau Cadwgan", "felarian", a'r "feddyges fach" hefyd yn y Gymraeg[1]. Yng Nghymru mae'n blodeuo rhwng Mehefin a Medi a thyf drwy Ewrop, rhannau o Asia ac fe'i tyfwyd yn ddiweddar yn America lle mae'n cael ei fasnachu cryn lawer. Yn yr 16eg roedd y triaglog yn cael ei dyfu i wneud persawr. Yn yr un teulu mae'r Triaglog coch.[2]
Caiff ei beillio gan y glöyn byw yn yr haf.[3]
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Mae'r hadau, y dail a'r gwreiddiau'n cael eu defnyddio ar gyfer eu rhinweddau iachusol.
Caiff y planhigyn ei ddefnyddio i leddfu straen, lladd poen a chur pen.[4] Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer anhunedd (insomnia), i ymlacio'r cyhyrau ac i atal anhunedd[5] Mae rhai defnyddwyr yn gorfod ei gymryd am wythnosau llawer cyn iddo weithio, ond caiff effaith sydyn ac uniongyrchol ar ddefnyddwyr eraill. Y cynhwysion sy'n weithredol yw'r olew, indoidau ac alcaloidau, sydd i gyd yn cynorthwyo'r corff i ymlacio.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi
- ↑ Llun o'r traiglog coch
- ↑ Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri[dolen farw]
- ↑ "Gwefan rhannol Gymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-05. Cyrchwyd 2009-04-23.
- ↑ The Health Store Magazine; Rhifyn Tachwedd-Rhagfyr 2012.