Tri Chryfion Byd neu Pres Mawr Penna Bach
| Enghraifft o: | drama |
|---|---|
| Awdur | Emlyn Gomer |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Lleoliad y perff. 1af | Theatr Gwynedd |
| Dyddiad y perff. 1af | 1998 |
| Cwmni cynhyrchu | Cwmni Theatr Gwynedd |
| Dynodwyr | |
Cyfoesiad o anterliwt Twm o'r Nant, Tri Chryfion Byd yw'r ddrama lwyfan Tri Chryfion Byd neu Pres Mawr Penna Bach a lwyfannwyd gan Cwmni Theatr Gwynedd ym 1998 ac wedi'i gyfansoddi gan Emlyn [Gomer] Roberts. Llwyfannwyd y gwaith yn nhymor Sian Summers fel arweinydd artistig y cwmni, a Sian oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo'r ddrama. Ymysg y cast roedd Merfyn Pierce Jones, Carys Gwilym, Robin Eiddior ac Idris Morris Jones.[1]
Ymateb
[golygu | golygu cod]Ni chafodd adolygydd Barn, Rhiannon Tomos lawer o fwynhad o'r cynhyrchiad gan feirniadu'r ymgais i "egluro, ymddiheuro, esgusodi, osgoi" y diffygion yng ngwaith gwreiddiol Twm o'r Nant. Aeth yn ei blaen i nodi: "Er i'r munudau agoriadol ein hudo i gredu bod anterliwt i'r mileniwm ger bron - y drol wedi troi'n lori, a'r perfformwyr yn dod ohoni megis o long ofod i gyfeiliant cerddoriaeth 2001: A Space Odyssey, - unwaith y distewodd y gerddoriaeth plymiodd yr awyrgylch i'r cyffredin bawaidd wrth i'r actorion fynd i gecru'n annisgwyl ymysg ei gilydd."[1]
Cyfaddefodd Tomos bod holl nodweddion "chwip o sioe" yma, mewn "ieithwedd theatrig yr ugenifed ganrif", ond dryswch y noson "a'r methiant ysgubol" oedd y "fframwaith diangen" [o anterliwt o fewn drama] a'i gwnaeth "yn ormod o gowdel o'r hanner".[1]