Tri Chastell Gwent
| Math | arglwyddiaeth |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Perchnogaeth | Cadw |
Grŵp o gaerau canoloesol ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr (yn Sir Fynwy heddiw) yw Tri Chastell Gwent. Sefydlwyd Castell y Grysmwnt, Castell Ynysgynwraidd a'r Castell Gwyn gan y Normaniaid yn sgil eu concwest o Loegr yn 1066, i amddiffyn y llwybr rhwng Gymru a Henffordd. Fe'u hunwyd o dan un arglwyddiaeth yn ystod teyrnasiad y Brenin Steffan (1135–54) ac arhosasant ym meddiant un perchennog tan yr 20g.
Mae'n bosibl eu bod wedi cael eu comisiynu gan William FitzOsbern, Iarll Henffordd. Roeddent yn wreiddiol yn cynnwys amddiffynfeydd priddwaith gydag amddiffynfeydd pren. Ym 1201 rhoddwyd arglwyddiaeth y Thri Chastell gan y Brenin John i Hubert de Burgh a gryfhaodd amddiffynfeydd Castell y Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd. Mae'n debyg i'r Castell Gwyn gael ei ailadeiladu yn y 1250au a'r 1260au yn ystod teyrnasiad Harri III. Trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth rhwng sawl perchennog tan 1267, pan gafodd ei rhoi i Edmund, Iarll Caerhirfryn, ac arhosodd ym meddiant ei deulu tan 1825.
Cadw sy'n rheoli'r Tri Chastell bellach.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- John R. Kenyon, The Medieval Castles of Wales (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2010), tt.141–5