Tretŵr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tretower)
Jump to navigation Jump to search
Tretŵr
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8833°N 3.1833°W Edit this on Wikidata

Pentref bychan yn ardal Brycheiniog, de Powys yw Tretŵr (Saesneg: Tretower). Saif yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin. Lleolir y pentref ger cyffordd yr A470 a'r A479, tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r gorllewin a'r Fenni i'r de-ddwyrain.

Llifa Afon Rhiaingoll drwy'r pentref ac mae llethrau'r Mynydd Du yn codi i'r dwyrain. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Tretŵr yn adnabyddus yn bennaf am Llys a Chastell Tre-tŵr a godwyd yn niwedd yr 11g gan Picard, milwr Anglo-Normanaidd ac yna gan y Fychaniaid. Cofnodwyd yr enw'n gyntaf yn 1463 (Trevetour).


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.