Tref y Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tre'r Penrhyn)
Tref y Penrhyn
Mathdinas â phorthladd, prifddinas, endid tiriogaethol (ystadegol), dinas fawr, prifddinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPenrhyn Gobaith Da Edit this on Wikidata
Poblogaeth433,688 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1652 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGeordin Hill-Lewis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWestern Cape Edit this on Wikidata
SirSir Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
GwladBaner De Affrica De Affrica
Arwynebedd2,454.72 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
GerllawBae'r Bwrdd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.9253°S 18.4239°E Edit this on Wikidata
Cod post8001, 8000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Cape Town Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGeordin Hill-Lewis Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas, porthladd a'r ail ddinas fwyaf poblog yn Ne Affrica yw Tref y Penrhyn (Saesneg: Cape Town; Affricaneg: Kaapstad, /ˈkɑːpstɑt/; Xhosa: iKapa) a elwir ar lafar yn "Fam Ddinas".[1] Mae'n brifddinas daleithiol Gorllewin y Penrhyn, yn ganolfan bwrdeistref Dinas Tref y Penrhyn ac yma y lleolir Senedd y wlad.[2][3] Lleolir Tref y Penrhyn ym mhen gogleddol Gorynys y Penrhyn yn ne orllewin De Affrica, tua 50 km i'r gogledd o Benrhyn Gobaith Da. Saif ar droed Mynydd y Bwrdd, ar arfordir Bae'r Bwrdd yn ne Cefnfor yr Iwerydd. Mae poblogaeth Tref y Penrhyn oddeutu 433,688 (2011)[4], ond Johannesburg yw dinas fwyaf poblog yn Ne Affrica. Ceir dwy brifddinas arall yn Ne Affrica: prifddinas cyfraith y wlad yw Bloemfontein a phrifddinas yr arlywydd, sef Gauteng (Pretoria).[5]

Enwyd y ddinas yn Brifddinas Dylunio'r Byd, 2014 gan Gyngor Rhyngwladol Cymdeithasau Dylunio Diwydiannol.[6] Yn yr un flwyddyn, enwyd Tref y Penrhyn y lle gorau yn y byd i ymweld ag ef - a hynny gan The New York Times a The Daily Telegraph.[7][8] Mae Cape Town hefyd wedi bod yn ddinas letyol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 1995 a Chwpan y Byd FIFA 2010, ac mae'n cynnal cymal Affrica Rygbi'r Byd (Cyfres 7) yn flynyddol.[9]

Oherwydd ei bwysigrwydd fel porthladd lan 'Table Bay', fe'i datblygwyd gan Gwmni Dwyrain India'r Iseldiroedd (VOC) fel gorsaf gyflenwi ar gyfer llongau o'r Iseldiroedd sy'n hwylio i Ddwyrain Affrica, India, a'r Dwyrain Pell. Fe wnaeth dyfodiad Jan van Riebeeck ar 6 Ebrill 1652 sefydlu Gwladfa Cape VOC, yr anheddiad Ewropeaidd parhaol cyntaf yn Ne Affrica. Hyd nes Rhuthr Aur Witwatersrand a datblygu Johannesburg, Cape Town oedd y ddinas fwyaf yn Ne Affrica.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daethpwyd o hyd i'r olion dynol cynharaf yn y rhanbarth yn Ogof Peers yn Fish Hoek ac maent yn dyddio rhwng 15,000 a 12,000 (CP).[10] Ychydig sy'n hysbys o hanes preswylwyr cyntaf y rhanbarth, gan nad oes hanes ysgrifenedig o'r ardal cyn iddo gael ei grybwyll gyntaf gan y fforiwr Portiwgalaidd Bartolomeu Dias ym 1488, sef yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ardal, a'i enwi'n "Benrhyn y Stormydd" (Cabo das Tormentas). Cafodd ei ailenwi'n ddiweddarach gan John II o Bortiwgal yn "Benrhyn Gobaithe" (Cabo da Boa Esperança) oherwydd y gobaith o fyd gwell, pan agorwyd y llwybr i India a'r Dwyrain. Cofnododd Vasco da Gama iddo weld Penrhyn Gobaith ym 1497.

Yn 1510, ym Mrwydr Salt River, lladdwyd Francisco de Almeida a chwe deg pedwar o'i ddynion a threchwyd ei blaid gan yr !Uriǁ'aekua ("Goringhaiqua" mewn sillafu bras yn yr Iseldireg) - pan ddefnyddiodd wartheg wedi'u hyfforddi'n arbennig.[11] Roedd yr !Uriǁ’aekua yn un o lwythi'r Khoekhoe, fel y’u gelwir, yn yr ardal. Ar ddiwedd yr 16g roedd llongau Ffrengig, Daneg, Iseldiraidd a Saesnig, ond Portiwgaleg yn bennaf, yn parhau i angori yno'n rheolaidd, ym Mae'r Bwrdd ar eu ffordd i'r India. Roeddent yn masnachu tybaco, copr a haearn gyda llwythi'r Khoekhoe, yn gyfnewid am gig ffres a phethau eraill.

Sefydlwyd Tref y Penrhyn ym 1652 gan y llywodraethwr Jan van Riebeeck, Cadlywydd Trefedigaeth y Penrhyn, yn orsaf gyflenwi ar fôr-lwybr Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain. Hon oedd y wladfa Ewropeaidd gyntaf yn Ne Affrica. Meddiannwyd y ddinas gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1795. Dychwelodd i'r Iseldirwyr ym 1803, ond cafodd ei hailgipio gan y Prydeinwyr ym 1806 a'i gwneud yn brifddinas Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Da. Daeth Tref y Penrhyn yn y brifddinas ddeddfwriaethol genedlaethol, a Pretoria yn y brifddinas weinyddol, pan ffurfiodd Undeb De Affrica ym 1910. Roedd yn brifddinas Talaith y Penrhyn o 1910 hyd 1994, ac yn brifddinas Dwyrain y Penrhyn ers hynny.

Economi[golygu | golygu cod]

Un o ganolfannau economaidd mwyaf Affrica yw Tref y Penrhyn. Ceir, nwyddau lledr a phlastig, a dillad yw'r prif ddiwydiannau, ac mae puro olew, bwyd a gwin, offer peirianyddol, a chemegion a gwrtaith i gyd yn ddiwydiannau pwysig.

Allforir aur, diemyntau a ffrwythau gan y porthladd. Hwn yw un o ddociau sych mwya'r byd, ac mae atgyweirio llongau yn ddiwydiant pwysig. Mae rhan fawr o ardal y dociau bellach yn ganolfan fasnachol a thwristaidd ar lan y dŵr gydag amgueddfeydd, marchnadau crefftau, a bwytai.

Golygfa o "Folwen y Ddinas" o Lion's Head ym Mai (diwedd yr hydref).

Yn 2011 roedd Cynnyrch mewnwladol crynswth (neu CMC) y brifddinas yn UD US$ 56.8 biliwn gyda CMC y pen o US$ 15,721; o'i gymhary a CMC y pen o US$ 31,148 Cymru.[12]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Trigai dros 3.7 miliwn o bobl yn yr ardal fetropolitanaidd, yn ôl cyfrifiad 2011. Tref y Penrhyn felly yw'r ddinas ail fwyaf boblog yn Ne Affrica ar ôl Johannesburg. Mae 42.4% o'r boblogaeth yn bobl liw'r Penrhyn, 38.6% yn Affricanwyr Duon, 15.7% yn groenwyn, 1.4% yn Indiaidd neu Asiaidd, a 1.9% o hil neu grŵp ethnig arall. Affricaneg, Xhosa a Saesneg yw prif ieithoedd y ddinas.[13]

Twristiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Tref y Penrhyn nid yn unig yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn Ne Affrica, ond yn un o'r cyrchfannau pwysicaf yn Affrica gyfan. Mae hyn oherwydd ei hinsawdd fwyn, ei lleoliad naturiol, dramatig a'i seilwaith modern. Ceir sawl nodwedd naturiol adnabyddus sy'n denu twristiaid, yn fwyaf arbennig Bwrdd y Mynydd, sy'n ffurfio rhan fawr o Barc Cenedlaethol Bwrdd y Mynydd ac sy'n rhan ôl o Fowlen y Ddinas.[14] Gellir cyrraedd pen y mynydd naill ai trwy heicio i fyny, neu trwy gymryd rhaffbont y Table Mountain Cableway.[15]

Cydnabyddir Cape Point fel y pentir dramatig ar ddiwedd Penrhyn Cape. Mae llawer o dwristiaid hefyd yn gyrru ar hyd Chapman's Peak Drive, ffordd gul sy'n cysylltu Noordhoek â Hout Bay, i gael golygfeydd o Gefnfor yr Iwerydd a mynyddoedd cyfagos. Mae'n bosibl naill ai gyrru neu heicio i fyny Signal Hill i gael golygfeydd agosach o Fowlen y Ddinas a Mynydd y Bwrdd

Adeiladau[golygu | golygu cod]

  • Castell Gobaith Da (codwyd 1666)
  • Yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd (codwyd 1699)
  • Hen Dŷ'r Dref (1755; adeilad cyhoeddus cyntaf y ddinas, sy'n cynnwys oriel o baentiadau o Fflandrys a'r Isalmaen)
  • Prifysgol Tref y Penrhyn (sefydlwyd 1829)
  • Ystad Groote Schuur (cyn-gartref y prif weinidog a'r arlywydd)
  • Senedd yr Undeb
  • Maes Awyr Rhyngwladol Tref y Penrhyn
  • Ynys Robben (hen garchar)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. withbeyond.com. "The Mother City Cape Town". Skylife (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-26. Cyrchwyd 2020-10-12.
  2. "Western Cape | province, South Africa". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2017. Cyrchwyd 22 Mehefin 2017.
  3. "Discover the 9 Provinces of South Africa and their Capital Cities". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2017. Cyrchwyd 22 Mehefin 2017.
  4. http://www.statssa.gov.za/?page_id=4286&id=331. dyddiad cyrchiad: 26 Awst 2019.
  5. "Pretoria | national administrative capital, South Africa". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
  6. "Cape Town Hosts Official WDC 2014 Signing Ceremony". World Design Capital. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2013. Cyrchwyd 4 Awst 2012.
  7. "14 Fun Facts You Didn't Know About Cape Town - Interesting & Amusing Things about the Mother City". Cape Town Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2014. Cyrchwyd 17 Mehefin 2014.
  8. Bruyn, Pippa de (5 Chwefror 2016). "The world's best cities". Telegraph.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2016. Cyrchwyd 4 Ebrill 2018.
  9. worldrugby.org. "Rounds and Tournaments - HSBC World Rugby Sevens Series | world.rugby/sevens-series". www.world.rugby. Cyrchwyd 2020-10-12.
  10. "The Antiquity of man". SouthAfrica.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mawrth 2009. Cyrchwyd 15 Mehefin 2009.
  11. Hamilton, Carolyn, (ed.) Mbenga, Bernard, (ed.) Ross, Robert, 1949 Gorffennaf 26- (ed.) (2011). "Khoesan and Immigrants". The Cambridge history of South Africa: 1885-1994. 1. Cambridge University Press. tt. 168–173. ISBN 9780521517942. OCLC 778617810.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text: authors list (link)
  12. "Global city GDP 2011". Brookings Institution. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2013. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  13. (Saesneg) City of Cape Town. Statistics South Africa. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2016.
  14. "Table Mountain Aerial Cableway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 21 Ebrill 2008.
  15. "Cape Point". Cape Point. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2011. Cyrchwyd 1 Hydref 2011.