Trawstrefa

Oddi ar Wicipedia

Ffordd o fywoliaeth fugeiliol sy'n nomadaidd i raddau yw trawstrefa neu hafota a hendrefa[1][2] a nodweddir gan symud da byw yn dymhorol i ardal arall. Y ffurf arferol yw mudo i diroedd pori mynyddig yn y tymhorau cynnes ac i symud i diroedd isel yn ystod gweddill y flwyddyn. Gellir hefyd trawstrefa rhwng lledredau, er enghraifft gan fugeiliaid ceirw Siberia sy'n mudo rhwng y taiga isarctig a'r twndra Arctig. Arferai hefyd trin cnydau gan y mwyafrif o bobloedd sy'n trawstrefa. Y prif gwahaniaeth rhwng trawstrefa a bugeilyddiaeth nomadaidd yw'r trigfannau sefydlog sydd gan amaethwyr sy'n trawstrefa.[3]

Tarddai'r gyfundrefn drawstrefa yng Nghymru o'r Oesoedd Canol, os nad o gyfnod cynharach. Symudai'r amaethwr, ei deulu a'i anifeiliaid i'r hafod neu'r lluest ar y mynydd ym misoedd yr haf. Byddid yn gofalu am wartheg yn yr hafod rhwng Calan Mai a Chalan Gaeaf. Dychwelodd i'r hendref ar lawr gwlad yn y gaeaf. Fel rheol, safle ar dir âr ffrwythlon oedd yr hendre a fu'n tyfu cnydau heb ymyrraeth wedi i'r gwartheg gael eu symud i'r hafod yn yr haf. Peidiodd yr arfer hon wrth i ddefaid ddisodli gwartheg fel prif gynhaliaeth economi'r ucheldir ar ddiwedd yr 17g. Datblygodd hafodydd ar draws y wlad yn ffermydd ucheldir cyflawn, ac erbyn 1800 yr oedd hafota a hendrefa wedi diflannu o Gymru.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  trawstrefa. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Awst 2015.
  2. Geiriadur yr Academi, [transhumance].
  3. (Saesneg) transhumance. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Awst 2015.
  4. Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 427 [HAFOD A HENDRE].
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: