Yr wyddor Gyrilig

Oddi ar Wicipedia
Dosbarthiad yr wyddor Gyrilig. Hi yw'r prif wyddor yn y gwledydd gwyrdd tywyll, ac fe'i defnyddir ynghyd â gwyddor arall yn y gwledydd gwyrdd golau.

System ysgrifennu yw'r wyddor Gyrilig, a ddefnyddir heddiw ar gyfer rhai ieithoedd Slafonaidd (Belarwseg, Bwlgareg, Macedoneg, Rwseg, Serbeg ac Wcreineg). Fe'i defnyddir hefyd i ysgrifennu nifer o ieithoedd an-Slafonaidd yn Rwsia a Chanolbarth Asia. Ysgrifennid rhai ieithoedd eraill, megis Aserbaijaneg, yn yr wyddor hon ar adegau yn y gorffennol.

Datblygwyd yr wyddor Gyrilig yn y nawfed ganrif gan ddisgyblion i'r ddau sant, Cyril a Methodius, yn sgil eu hymdrechion i gyflwyno Cristnogaeth i'r pobloedd Slafaidd. Dyma'r rheswm am yr enw.

Llythrennau cyffredin[golygu | golygu cod]

Mae sawl ffurf wahanol i'r wyddor, ond isod mae tabl o'r llythrennau mwyaf cyffredin. Rhoddir y synau y maent yn eu cynrychioli mewn symbolau IPA.

Llythrennau Cyrilig cyffredin
Teipysgrif Llawysgrifen Sain
А а А а /a/
Б б Б б /b/
В в В в /v/
Г г Г г /g/
Д д Д д /d/
Е е Е е /je/
Ж ж Ж ж /ʒ/
З з З з /z/
И и И и /i/
Й й Й й /j/
К к К к /k/
Л л Л л /l/
М м М м /m/
Н н Н н /n/
О о О о /o/
П п П п /p/
Р р Р р /r/
С с С с /s/
Т т Т т /t/
У у У у /u/
Ф ф Ф ф /f/
Х х Х х /x/
Ц ц Ц ц /ʦ/
Ч ч Ч ч /ʧ/
Ш ш Ш ш /ʃ/
Щ щ Щ щ /ʃʧ/
Ь ь Ь ь /ʲ/
Ю ю Ю ю /ju/
Я я Я я /ja/

Ni chynrichiola'r llythyren ь unrhyw sain penodol. Yn hytrach, mae'n newid sain y llythyren blaenorol, gan ei 'feddalu'. Mewn rhai ieithoedd, mae'r llythyren ъ neu gollnod yn 'caledu' sain y llytheren blaenorol.

Trawslythreniad Cyrilig-Cymraeg[golygu | golygu cod]

Rwsieg[golygu | golygu cod]

Rwsieg Cymraeg Saesneg
а a a
б b b
в f v
г g g
д j d
е e e
ё io yo
ж ch kh
з s z
и i i
й i y
к c k
л l l
м m m
н n n
о o o
п p p
р r r
с s s
т t t
у w u
оу u u
ф f f
х cs x
ц c c
ш sh š
щ sch sch
ы i y
э é é
ю iu yu
я ia ya

Felly, byddai "русский" (russkiy sy'n golygu "Rwsieg") yn cael ei drawslythrennu yn Gymraeg fel "rwsci".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.