Transistor

Oddi ar Wicipedia

Lled-ddargludydd sy'n gallu chwyddo ac unioni cerrynt trydanol yw transistor.[1] Mae transistorau yn bresennol yn y mwyafrif helaeth o ddyfeisiau trydanol mewn cylchedau cyfannol neu ficrosglodion ac felly gellir ei ystyried yn "nerfgell yr Oes Wybodaeth".[2]

Dyfeisiwyd y transistor gan y ffisegwyr Americanaidd John Bardeen, Walter Houser Brattain a William Shockley oedd yn gweithio i Bell Labs yn y 1950au. Enillodd y tri dyn Wobr Ffiseg Nobel ym 1956.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, [transistor].
  2. (Saesneg) transistor (electronics). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato