Tramwy'r Arglwyddes Bagot

Oddi ar Wicipedia
Afon Clywedog yn ymyl y Tramwy, Rhewl

Mae Tramwy'r Arglwyddes Bagot ar lan orllewinol Afon Clywedog yn ymyl Rhewl.

Roedd y Teulu Bagot yn berchnogion ystâd Pool Parc yn ystod y 19eg a'r 20g. Roedd yr Arglwyddes Bagot yn hoff iawn o Ddyffryn Clwyd, felly fe greoedd yr Arglwydd Bagot lwybr cerbydau iddi.

Gellir cerdded y llwybr heddiw. Mae'r dreif yn bwysig am ei geoamrywiaeth. Ffurfiwyd y creigiau mewn cefnfor dwfn rhyw 420 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Gellir dod o hyd i ffosiliau creaduriaid y môr o dro i dro.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taflen am daith cerdded trwy'r dyffryn Archifwyd 2016-03-13 yn y Peiriant Wayback. oddi wrth wefan 'Ardal Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn' adalwyd 14 Mawrth 2016