Torra di Finochjarola

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Torra di Finochjarola
Iles Finocchiarola.jpg
Math Tyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau 42.98°N 9.47°E Edit this on Wikidata

Mae Tŵr Finochjarola (Corseg: Torra di Finochjarola) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Nghorsica, wedi ei leoli ar ynys Finochjarola, yn commune Rogliano (Haute-Corse). Mae'r tŵr yn sefyll ychydig i'r gogledd-ddwyrain o borthladd Macinaghju. Mae Ynysoedd Finochjarola wedi'u dynodi'n warchodfa natur ers 1987 ac wedi eu cynwys yng ngwarchodfa ehangach Cap Corse ers 2017. Oherwydd sefyllfa fregus bywyd gwyllt yr ynysoedd ni chaniateir glanio arnynt gan aelodau'r cyhoedd. Gan hynny nid oes modd ymweld ag adfeilion y tŵr ond mae modd cael golwg da ohonni ar daith môr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]. Mae'r tŵr, sy'n agored i wyntoedd uchel a chwistrelliadau'r tonnau, mewn cyflwr gwael iawn. Mae ei hochr gogledd-ddwyreiniol wedi cwympo yn rhannol.[2]. Mae'r tŵr a'i hynys dan ofal Conservatoire du littoral

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Tour de la Finocchiarola - Les Tours Génoises du Cap Corse adalwyd 12 Awst 2018]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Corsica topo.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.