Torra di Campumoru

Oddi ar Wicipedia
Torra di Campumoru
MathTyrau Genoa yng Nghorsica, fortified tower Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBelvédère-Campomoro Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.6389°N 8.80722°E, 41.63867°N 8.80692°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Tŵr Campumoru (Corseg:Torra di Campumoru) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Belvédère-Campomoro (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn eistedd ar uchder o 78 m (256 troedfedd) ar bentir Punta di Campomoro sy'n ffurfio terfyn deheuol Golfe de Valinco.

Cynlluniwyd y tŵr gan Carlo Spinosa a chafodd ei hadeiladu rhwng 1585 gan 1586 y saer Giorgio Canton. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Ym 1992 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[2]

Ers 1986 mae'r tŵr wedi bod yn berchen i, ac yn cael ei chynnal gan asiantaeth lywodraeth Ffrengig, y Conservatoire du littoral. Mae'r asiantiaeth yn bwriadu prynnu 132 hectar (330 acr) o'r pentir.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 145–147. ISBN 2-84050-167-8.
  2. "Monuments historiques: Tour de Campomoro et son enceinte fortifiée". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..
  3. Catalogue monuments historiques (Adroddiad). Conservatoire du Littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie, République Française. Gorffennaf 2011. p. 47. http://www.conservatoire-du-littoral.fr/include/viewFile.php?idtf=930&path=e7%2F930_116_Catalogue-Illustre-des-Monuments-HistoriquesB.pdf. Adalwyd 27 Ebrill 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gorsica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.