Torra d'Elbu

Oddi ar Wicipedia
Torra d'Elbu
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.3717°N 8.5736°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Tŵr Elbu (Corseg:Torra d'Elbu Ffrangeg: Tour d'Elbo) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Osani ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Fe'i lleolir ar dir sy'n perthyn i'r Conservatoire du Littoral

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd y tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Mae'r tŵr yn gorwedd ychydig i'r tu allan i ffin Gwarchodfa Natur Scandola. Mae Gwarchodfa Scandola wedi bod ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1983.

Mae tŵr Elbu wedi goroesi'n weddol gyflawn, mae'n adeilad crwn gyda gwregys hardd o friciau coch rownd ei channol. Mae'r amddiffynfa ar y teras yn cynnwys rhyngdyllau amlwg ac mae'r parapet yn ffurfio coron gastellog.[2]

Galeri[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen marw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Tour d'Elbo Archifwyd 2018-02-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 Awst 2018