Neidio i'r cynnwys

Tony Jones

Oddi ar Wicipedia
Tony Jones
Tony ym 1967
GanwydThomas Jones Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1939 Edit this on Wikidata
Talwrn Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 2026 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffermwr, canwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Canwr a chyfansoddwr o Gymru oedd Tony Jones (9 Tachwedd 19391 Chwefror 2026) oedd yn fwyaf adnabyddus fel un hanner o'r ddeuawd Gymraeg, Tony ac Aloma.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Magwyd Thomas Jones ar fferm Gwenllian ger Talwrn, Ynys Môn yn fab i Anne a Thomas Jones. Roedd ganddo ddau frawd hŷn, Jac a Huw a daeth dwy chwaer ar ei ôl, Phyllis a Catherine. Thomas oedd yr enw ar ei dystysgrif geni ond gelwid ef yn Tony gan ei rieni. Nid oedd yn hoff o'r enw Tony ac yn ei fywyd personol roedd yn cyflwyno ei hun fel 'Twm' neu 'Tom'.[1]

Cychwynnodd gyfansoddi caneuon pan oedd yn gweithio fel gwas fferm yn Lloegr. Yn y 1960au, roedd Tony yn perfformio yn rheolaidd mewn nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol ar Ynys Môn. Yn 1964 cafodd Tony gais i drefnu noson lawen yn Llanfair-yng-Nghornwy. Gwahoddwyd Aloma a'i ffrind, Christine Lee i berfformio yn y noson lawen. Wedi hynny bu Aloma a Christine yn aml yn canu lleisiau cefndir pan oedd Tony yn canu.[2]

Wedi perfformio mewn noson lawen dan arweiniad Charles Williams awgrymodd mab Charles, Idris Charles bod Tony, Aloma, Christine ac ef yn ffurfio parti noson lawen. Roedd Parti Idris Charles yn cynnig set noson lawen gyflawn gydag Idris yn dweud jocs, Christine ac Aloma yn canu deuawdau a Tony yn unawdydd. Roedd Mam Christine yn poeni bod dyletswyddau'r parti yn effeithio ar ei gwaith ysgol ac ymadawodd â'r parti. Wedi i Christine ymadael dechreuodd Aloma ganu deuawdau gyda Tony yn nosweithiau'r Parti.

Roedd cymaint o alw am y ddeuawd mewn nosweithiau llawen a chyngerddau nes i'r ddeuawd droi'n broffesiynol. Cyhoeddwyd nifer fawr o recordiau Tony ac Aloma yn cychwyn yn 1968 gyda sengl "Caffi Gaerwen" ac roedd y ddeuawd yn aml ar frig siart Y Cymro. Cafodd y ddeuawd raglen deledu yn eu cyflwyno ar deledu yn 1969.[3]

Gwahanodd y ddeuawd yn ddiweddarach - parhaodd Tony i berfformio fel artist unigol ac roedd Aloma yn canu gyda'i phartner Roy. Wedi wyth mlynedd ar wahân dychwelodd y ddeuawd at ei gilydd yng nghanol yr 1980au. Cafodd y ddeuawd gyfres deledu eu hunain ar S4C yn 1986 ac 1987.[4]

Roedd Aloma a'i gŵr Roy yn rhedeg gwesty'r Gresham yn Blackpool. Ers 1987 roedd Tony yn eu helpu i redeg y gwesty. Roedden nhw'n cynnal nosweithiau cabaret yno, gydag artistiaid adnabyddus eraill o Gymru yn ymuno a llond bysiau o ddilynwyr yn mynd i aros yno.[5]

Cyhoeddodd Tony ac Aloma fywgraffiad ar y cyd yn 2011 - Tony ac Aloma - Cofion Gorau.

Symudodd Tony nôl i Ynys Môn i ymddeol. Bu farw yn 86 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gibbard, Alun, gol. (2011). Tony ac Aloma - Cofion Gorau. Y Lolfa. ISBN 9781847713759.
  2. "Teyrngedau i Tony Jones o ddeuawd boblogaidd Tony ac Aloma sydd wedi marw yn 86 oed". newyddion.s4c.cymru. 2026-02-01. Cyrchwyd 2026-02-01.
  3. "Rhaglenni Teledu Pop - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 2026-02-01.
  4. "Catalog Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Tony ac Aloma". darganfod.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-01.
  5. 5.0 5.1 "Tony Jones o'r ddeuawd 'Tony ac Aloma' wedi marw yn 86 oed". BBC Cymru Fyw. 2026-02-01. Cyrchwyd 2026-02-01.