Neidio i'r cynnwys

Tonfedd Eryri

Oddi ar Wicipedia
Tonfedd Eryri
Enghraifft o:cwmni cynhyrchu Cymraeg
Cysylltir gydaFfilmiau Eryri, Cwmni Da Edit this on Wikidata
Daeth i ben2005
PerchennogNorman Williams, Hefin Elis, Marian Elis Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau o'r Felinheli, Cymru oedd Tonfedd Eryri. Sefydlwyd y cwmni pan unwyd 2 gwmni annibynnol ynghanol y 1990au sef Ffilmiau Eryri a Tonfedd. Daeth y cwmni i ben yn 2005, wedi iddo uno gyda Cwmni Da.[1] Norman Williams a Hefin Elis a Marian Elis oedd Uwch Gynhyrchwyr y Cwmni. Roedd y cwmni wedi'i leoli yn Hen Ysgol Aberpwll, Y Felinheli.

Parhaodd y cwmni newydd i gynhyrchu rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C fel Noson Lawen, Tipyn o Stad, Bob a'i Fam, 9 tan 9, Yma Mae Nghân, Ma' Ifan 'Ma, Da 'Di Dil 'De, Diolch o Galon, Cerddwn Ymlaen a darllediadau o'r Ŵyl Gerdd Dant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Welsh indies merge". Broadcast (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-20.