Tom Price

Oddi ar Wicipedia
Tom Price
Ganwyd12 Gorffennaf 1980 Edit this on Wikidata
y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pricetom.com Edit this on Wikidata
Erthygl am y digrifwr yw hon. Am erthygl ar y gyrrwr Fformiwla 1, ewch i Tom Pryce.

Actor a digrifwr Cymreig yw Tom Price (ganwyd 12 Gorffennaf 1980) sy'n hannu o Drefynwy.[1] Mae'n briod a'r cynhyrchydd teledu Beth Morrey, sydd yn fwyaf enwog am greu fformat y sioe gwis Wogan's Perfect Recall ar gyfer Channel 4.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Actio[golygu | golygu cod]

Ymddangosiad cyntaf Pris ar deledu oedd mewn pennod o Absolute Power yn chwarae gweinydd. Mae'n adnabyddus i gynulleidfaoedd teledu am fod yn un o sêr y sioe gomedi sgets Swinging ar Five. Roedd ganddo rôl rheolaidd fel yr heddwad Andy Davidson mewn nifer o benodau o Torchwood, chwaer rhaglen i'r gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who. Yn 2008 ymddangosodd yn y sioe sgets The Wrong Door ar BBC Three a ffilmiodd rhan Darrin Stephens mewn peilot o ail-gread Prydeinig o Bewitched, na chafodd ei ddarlledu. Mae ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys Doctors (2009) a Secret Diary of a Call Girl (2010). Roedd gan Tom ran hefyd yn rhaglen Renault TV, The Key. Yn 2011 ail-gydiodd yn rhan Andy Davidson yn Torchwood: Miracle Day, a ddarlledwyd ar BBC One a rhwydwaith Starz yn yr Unol Daleithiau.[2]

Yn ychwanegol i'w berfformiadau teledu mae Price wedi ymddangos yn y ffilmiau The Boat that Rocked a Hereafter.[3]

Yn 2011 ymddangosodd mewn cyfres gomedi realaeth 8-rhan o'r enw World Series of Dating ar BBC3 [4] gyda Rob Riggle. Yn fwyaf diweddar roedd yn actor rheolaidd ochr yn ochr â Ruth Jones yn Stella ac ymddangosodd yn y gyfres ddiweddar o Count Arthur Strong a Episodes.

Comedi[golygu | golygu cod]

Mae Price yn perfformio yn aml fel digrifwr stand-yp ar draws gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.

Cymerodd ei sioe stand-up cyntaf, Say When, i Ŵyl Caeredin yn 2011,[5] a disgrifiodd un adolygydd ei arddull gomedi fel "easygoing, good-natured autobiographical".[6]

Dychwelodd i Edinburgh yn 2014, gyda'i sioe "Not as nice as He Looks",[7] a gafodd ei ddisgrifio gan un adolygwr fel "chwa o awyr iach, arloesol a ddychrynllyd o ddigrif"[8]

Yn Hydref 2014, cefnogodd Tom Stephen Merchant ar ei Daith Ewropeaidd.

Radio[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Price fel Gordon, meddyg meddw ifanc, yn y sioe gomedi BBC Radio 4 Rigor Mortis am dair cyfres, ochr yn ochr â Peter Davison, Geoffrey Whitehead, Matilda Ziegler ac, yn y gyfres gyntaf, Tracy-Ann Oberman. Mae ei gredydau  radio hefyd yn cynnwys y ddrama radio Torchwood, Asylum, unwaith eto yn ei rôl fel yr heddwas Andy.

Mae'n cyflwyno y sioe gomedi newyddion The Leak with Tom Price ar BBC Radio Wales a ddechreuodd ym mis Medi 2014 a bydd yn rhedeg drwy gydol 2015. Cyn hynny, roedd yn gyflwynwyr rheolaidd o'r sioe gomedi materion cyfoes ar y  What's the Stori? ar BBC Radio Wales.[9]

Arall[golygu | golygu cod]

Roedd Price yn un o gyflwynwyr Destination Three ar BBC3 a cyflwynodd Senseless ar MTV. Yn 2014 adroddodd y rhaglen ddogfen "Quads" ar ITV1.[10] O ran hysbysebion mae wedi ymddangos yn hysbysebion Velvet Triple Soft and Trident "Mastication for the Nation", a wedi bod yn llais Nescafe. Mae wedi perfformio mewn hysbyseb Virgin Atlantic a wedi ymddangos mewn jingls ar y podlediad comedi Answer Me This!.[11] Mae hefyd wedi chwarae rhan y mwni PG Tips'.[12]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn
Teitl Rhan Mwy o wybodaeth
2014 Episodes Aaron Cyfres deledu - IMDb
Stella Andy Cyfres deledu - Stella ar IMDb
Topsy and Tim Paul Cyfres deledu - Topsy and Tim ar IMDb
2013 The Search for Simon Simon (older) Ffilm - The Search for Simon ar IMDb
2012 Walk or Fly Maths Teacher Cyfres deledu - Walk or Fly ar IMDb
World Series of Dating James Chetwyn-Talbot Cyfres deledu - World Series of Dating ar IMDb
2011 Holy Flying Circus Tim Rice Ffilm deledu
My Family Boy Cyfres deledu "Germs of Endearment"
2010 D.O.A. Luke Chambers Cyfres deledu D.O.A ar IMDb
Hereafter Man Hereafter ar IMDb
Secret Diary of a Call Girl Simon Pennod #3.3
2009 Doctors Richie Dunston Pennod deledu - "Rivals"
Hotel Trubble Prince Wally Pennod deledu - "Royal Trubble"
The Boat That Rocked Undisclosed The Boat That Rocked ar IMDb
2008 The Wrong Door Various The Wrong Door ar IMDb
2007 The Scum Also Rises Billy Ffilm deledu - The Scum Also Rises ar IMDb
Living with Two People You Like Individually... But Not as a Couple Craig Cyfres deledu - Living with Two People You Like Individually...But Not as a Couple ar IMDb
Nuclear Secrets Pragnell, Max Cyfres deledu fer - Nuclear Secrets ar IMDb
2006–2011 Torchwood Andy Davidson Rhan rheolaidd
2005 Swinging Various Rhaglen deledu - Swinging ar IMDb
Absolute Power Waiter Cyfres deledu - Absolute Power ar IMDb

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tom Price". The Comedy Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 7 Ebrill 2012.
  2. "Torchwood: Week Three Filming". Doctor Who News. 2011-01-30. Cyrchwyd 2012-09-25.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-28. Cyrchwyd 2016-06-19.
  4. "World Series of Dating". BBC. 23 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
  5. Edinburgh Festival 2011 listings
  6. Kettle, James (23 Gorffennaf 2011). "This week's new comedy". The Guardian. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
  8. [1]
  9. What's the Story? on BBC Radio Wales
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
  11. "ANSWER ME THIS! Best Internet Programme 2011 - Sony Radio Academy Awards (Gold)". Answermethispodcast.com. Cyrchwyd 2012-09-25.
  12. [2]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]