Tom Maynard

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tom Maynard
Tommaynard.jpg
Ganwyd 25 Mawrth 1989 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Mehefin 2012 Edit this on Wikidata (23 oed)
Wimbledon Edit this on Wikidata
Gwaith Cricedwr edit this on wikidata

Roedd Thomas Lloyd "Tom" Maynard (25 Mawrth 1989 - 18 Mehefin 2012) yn gricedwr o Gymru ac yn fab i Matthew Maynard (Morgannwg a Lloegr). Roedd yn fatiwr ac yn fowliwr llaw-dde.

Plentyndod[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd[1] a Ysgol Uwchradd Millfield School;[2] erbyn roedd yn 15 oed roedd yn chwarae i dîm Dan-17 Morgannwg. Flwyddyn yn ddiweddarach chwaraeodd i Ail Dîm Morgannwg ac i dîm cenedlaethol "Siroedd Llai" Cymru ("Wales Minor Counties").

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeodd gyntaf i Dîm Cyntaf Morganng ar 10 Mehefin 2007. Arwyddodd gytundeb dair blynedd gyda Surrey yn 2011.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i lladdwyd ger Wimbledon Park, de Llundain, gan drên tanddaearol ar 18 Mehefin 2012.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]



Cricketball.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am griced. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.