Tom Lehrer
| Tom Lehrer | |
|---|---|
Portread o Lehrer tua 1957 | |
| Ganwyd | 9 Ebrill 1928 Dinas Efrog Newydd |
| Bu farw | 26 Gorffennaf 2025 Cambridge |
| Label recordio | Reprise Records, Shout! Factory, Rhino |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | mathemategydd, canwr, academydd, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, dychanwr, ffisegydd damcaniaethol, cerddor, cyfansoddwr, pianydd |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | National Brotherhood Week |
| Arddull | dychan, comedi stand-yp |
| llofnod | |
Canwr, cyfansoddwr, pianydd a mathemategydd o'r Unol Daleithiau oedd Thomas Andrew Lehrer (9 Ebrill 1928 – 26 Gorffennaf 2025). Daeth Lehrer yn adnabyddus yn y 1950au a'r 1960au am ei ganeuon dyfeisgar llawn comedi ddu, megis We Will All Go Together When We Go sy'n trafod holocost niwclear mewn cywair llon, a Poisoning Pigeons in the Park. Fe fyddai'n cyfeilio i'w hun ar y piano wrth ganu'r caneuon hyn. Roedd ei yrfa fel cyfansoddwr a pherfformiwr yn fyr, gan iddo ymddeol o fyd cerddoriaeth yn y 1970au, er mwyn canolbwyntio ar addysgu mathemateg ym Mhrifysgol Harvard. Mae ei recordiadau wedi parhau i fod yn boblogaidd.
Ym mis Hydref 2020 trosglwyddodd Lehrer y gerddoriaeth a'r geiriau ar gyfer pob cân a ysgrifennodd erioed i'r parth cyhoeddus.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Songs by Tom Lehrer (1953)
- An Evening Wasted With Tom Lehrer (1959)
- More of Tom Lehrer (1959)
- Revisited (1960)
- That Was the Year That Was (1965)