Tlws Cwpan y Byd FIFA
| Enghraifft o: | gwobr chwaraeon |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1930 |
| Dechreuwyd | 1974 |
| Enw brodorol | FIFA World Cup Trophy |
| Gwefan | http://www.fifa.com/aboutfifa/organisation/marketing/brand/trophy.html |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/045pj |
| Quora | Fifa-world-cup-trophy |

Tlws sy'n cael ei gyflwyno i enillwyr cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA ydy Tlws Cwpan y Byd FIFA. Mae dau dlws wedi bodoli ers sefydlu cystadleuaeth Cwpan y Byd ym 1930: Tlws Jules Rimet rhwng 1930 a 1970, a Thlws Cwpan y Byd FIFA ers 1974 hyd heddiw.
Cerflun o Nike, duwies buddugoliaeth y Groegwyr oedd y tlws gwreiddiol a wnaed o arian eurog a lapis lazuli. Llwyddodd Brasil i ennill y tlws am y trydydd tro ym 1970 ac o'r herwydd cafodd Brasil gadw'r tlws a chomisiynwyd tlws newydd ar gyfer Cwpan y Byd 1974.
"Tlws Cwpan y Byd FIFA" ydy enw'r tlws newydd. Darlun dau berson yn dal y byd ydy'r cerflun aur 18 karat sy'n 36.8 cm o uchder ac yn pwyso 6.1 kg[1]. Yr Almaen yw deiliaid presennol y tlws ar ôl ennill Cwpan y Byd 2014.
Enillwyr
[golygu | golygu cod]Tlws Jules Rimet
Tlws Cwpan y Byd FIFA
Yr Almaen – 1974, 1990, 2014
Yr Ariannin – 1978, 1986
Yr Eidal – 1982, 2006
Brasil – 1994, 2002
Ffrainc – 1998
Sbaen – 2010
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History of the World Cup". 2014-05-25. Unknown parameter
|published=ignored (help)