Titw Tomos Las (cân)

Oddi ar Wicipedia
Y Casgliad Llawn, album cover.jpg
Y Casgliad Llawn, album cover

Cân a ganwyd gan Hogia'r Wyddfa yw "Titw Tomos Las". Cyfansoddwyd hi yn Ysgol Dolbadarn ar ddiwedd y 1960au, pan roddodd Eirlys Pierce alaw i eiriau'r gerdd gan T. Llew Jones am y titw tomos las.[1]

Crewyd addasiad o'r gân i gefnogi'r seiclwr Geraint Thomas, a datblygodd yn anthem i'w ymgyrch lwyddiannus yn Tour de France 2018. Recordiwyd y fersiwn hon gan Hogia'r Wyddfa ynghyd â Siddi a Band Pres Llareggub ar gyfer rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru. Canwyd hi hefyd gan Siddi a Band Pres Llareggub yn y dathliadau o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Iau 9 Awst 2018, yn ystod yr wythnos y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ddinas.

Bu bri mawr ar y gân ar ei newydd wedd ynghannol Dathliadau Geraint Thomas yn Tour de France 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Titw Tomos Las, Hogia'r Wyddfa a Geraint Thomas". BBC Cymru Fyw (yn Saesneg). 2018-07-25. Cyrchwyd 2018-08-09.