Titus Lewis

Oddi ar Wicipedia
Titus Lewis
Ganwyd21 Chwefror 1773 Edit this on Wikidata
Cilgerran Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 1811 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Titus Lewis (21 Chwefror, 1773 -1 Mai, 1811) yn weinidog yr efengyl yn enwad y Bedyddwyr Neilltuol ac yn awdur nifer o lyfrau.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lewis yng Nghilgerran Sir Benfro yn ail fab i Thomas Lewis a Martha Evans. Roedd Thomas Lewis yn grydd wrth ei waith a hefyd yn gwasanaethu fel gweinidog i'r Bedyddwyr Neilltuol yng Nghapel Cilforwyr.[2]

Teulu[golygu | golygu cod]

Wedi bod yn gweithio am gyfnod fel crydd gyda'i dad priododd Lewis Elizabeth Harvard, aelod llewyrchus o Eglwys Bedyddwyr y Porth tywyll yng Nghaerfyrddin ar 20 Tachwedd 1800. Rhoddodd y briodas annibyniaeth ariannol sylweddol iddo. Bu iddynt chwech o blant ond bu farw tri ohonynt yn eu plentyndod.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Capel y Porth Tywyll (top) a'r Tabernacl (gwaelod) ar glawr lyfr Desmond Davies am hanes y capeli

Cafodd Lewis ei fedyddio 1 Gorffennaf 1794 mewn afon ger chwaer eglwys Cilforwyr, Capel Blaenywaun, Llandudoch. Dechreuodd pregethu yn fuan wedyn ym mis Rhagfyr 1794. Ar ôl i Blaenywaun ffurfio cynulleidfa ar wahân i Gilforwyr gwahoddwyd Lewis i ddod yn weinidog arni gan gael ei ordeinio ar 24 Ionawr 1798. Wedi ei briodas symudodd i fyw i gartref ei wraig yng Nghaerfyrddin a chymerodd cyfrifoldeb am gynulleidfa'r Porth tywyll yn ychwanegol i'w weinidogaeth ym Mlaenywaun. Tra'n weinidog yng Nghaerfyrddin prynodd tir ar gyfer adeiladu capel newydd yn y dref sef Capel y Tabernacl, a agorwyd ym 1812 blwyddyn ar ôl ei farwolaeth.[3]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Cofir am Lewis yn bennaf am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gristionogol. Roedd yn awdur nifer o emynau. Mae dau ohonynt yn parhau yn boblogaidd mewn canu cynulleidfaol hyd heddiw sef Henffych i enw Iesu Gwiw (Caneuon Ffydd rhif 304) a Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb (Caneuon Ffydd rhif 323).[4]

Henffych i enw Iesu gwiw,
Syrthied o'i flaen angylion Duw;
Rhowch iddo'r parch,
holl dyrfa'r nef:
Yn Arglwydd pawb coronwch ef.

Mawr oedd Crist yn nhragwyddoldeb,
Mawr yn gwisgo natur dyn,
Mawr yn marw ar Galfaria,
Mawr yn maeddu angau'i hun;
Hynod fawr yw yn awr,
Brenin nef a daear lawr.

Ym 1806 cyhoeddodd cylchgrawn a bwriadwyd i ymddangos yn chwarterol Y Drysorfa Efangylaidd ond dim ond 2 rifyn daeth o'r wasg. Cyhoeddodd nifer o lyfrau a phamffledi gan gynnwys

  • Mawl i'r Oen a laddwyd, sef, Pigion o hymnau, perthynol i addoliad cyhoeddus : wedi eu casglu o waith yr awdwyr hynotaf yn yr oes bresennol.
  • Alarwm i fyd ac eglwys, neu, farwnad, er coffadwriaeth am George Richard ac Eleanor Richard ei wraig, a’u plentyn bach, ac Elizabeth Evans, Thomas Nicholas a David Joseph, oll o Landydoch. Y rhai a gollodd eu bywydau ar y môr mewn ystorm; gerllaw Sir Fôn, ar nos Iau, Hydref 28, 1802. George Richard a’i wraig, ac Elizabeth Evans, oeddent aelodau hardd yn eglwys y Bedyddwyr ym Mlaenywaun; ymadawsant er galar i lawer o’u cydnabod.
  • Hanes wladol a chrefyddol Prydain Fawr : o'r amser y daeth y Brutaniaid i wladychu iddi gyntaf hyd yn bresennol.
  • Catecism y Bedyddwyr Neillduol, mewn ffordd o ofyniadau ac attebion, wedi ei gasglu er hyfforddiad i ieuengctyd Cymru, yn egwyddorion ac ymarferiadau y grefydd Grist'nogol : gyd a phrofiadau ysgrythurol : at ba un yr ychwanegwyd ychydig o gyfarwyddiadau i ddysgu darllen Cymraeg
  • Grawn-sypiau Canaan : hymnau newyddion heb fod yn argraphedig o'r blaen
  • Traethawd byr, eglur ac ysgrythurol ar fedydd : lle y mae'r ordinhad sanctaidd yn cael ei gosod allan o ran ei sefydliad, ei deiliaid, ei dull, ei dyben a'i pharhad; ynghyd â rhwymau credinwyr i roddi ufudd-dod iddi
  • Taenelliad babanod o ddynion, ac nid o Dduw, neu, Attebiad i lyfr Mr. Peter Edwards, a elwir yn Cymraeg "Bedydd yn gyfarchiad i'r trochwyr ac i daenellwyr babanod"
  • Hanes tiriad y Ffrancod yn Mhencaer, yn agos i Abergwaen, Swydd Benfro, ar Dydd Mercher, Chwefror 22, 1797
  • A Welsh-English dictionary : = Geirlyfr Cymraeg a Saesneg : yr hwn sydd yn cynnwys y'nghylch deugain mil o eiriau Cymraeg, a rhan-ymadrodd i bob un o honynt, ac amrywiol o eiriau Saesneg pridol gyferbyn ́hwynt : hefyd, arwyddocaad geiriau anghyfiaith yn yr ysgrythyr lan : a pha ran o honi y maent hwy, ac amrywiol o rai ereill, i'w cael / wedi ei gasglu allan o'r geirlyfrau, hanes-lyfrau, a'r mynecyddion goreu a diweddaraf

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghaerfyrddin o'r diciâu yn 38 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn y bedd cyntaf i'w cloddio yng Nghapel y Tabernacl, Caerfyrddin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "LEWIS, TITUS (1773 - 1811), gweinidog Bedyddwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-27.
  2. 2.0 2.1 "Lewis, Titus (1773–1811), Particular Baptist preacher and author - Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-16607. Cyrchwyd 2019-08-27.
  3. Owen, D. Huw. (2005). Capeli Cymru. Delyth, Marian. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. t. 58. ISBN 0862437938. OCLC 62890952.
  4. Morgans, Delyth G. (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 602. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.