Titania (Shakespeare)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Titania (shakespeare))
Titania
SwyddFairy Queen Edit this on Wikidata
PriodOberon Edit this on Wikidata
Cweryl Oberon a Titania (tua 1849) gan Joseph Noel Paton (1821–1901)

Cymeriad yn nrama William Shakespeare A Midsummer Night's Dream ydy Titania. Yn y ddrama, cyfeirir ati fel brenhines y Tylwyth Teg. Oherwydd dylanwad Shakespeare, defnyddia llawer o lenyddiaeth hwyrach yr enw "Titania" fel enw ar gyfer cymeriad brenhines y Tylwyth Teg.

Mewn chwedloniaeth draddodiadol, nid oes enw gan frenhines y Tylwyth Teg. Cafodd Shakespeare yr enw o Metamorphoses Ofydd, lle mae'n enw a roddir i ferched y Titaniaid.

Yn nrama Shakespeare, mae Titania yn greadur balch iawn gyda'r un faint o rym a dylanwad a'i gŵr Oberon. Arweinia cweryl rhwng y ddau ohonynt at gymhlethdodau ac ansicrwydd i gymeriadau eraill y ddrama. Yn sgil swyn a osodir gan was Oberon Puck, cwympa Titania mewn cariad â gweithwyr cyffredin, Nick Bottom y Plethwr, Mae Bottom hefyd wedi derbyn pen asyn gan Puck, sy'n credu ei fod yn fwy addas ar i'w gymeriad (sy'n debyg i hanes Lycaon).

Dywed Oberon yn y ddrama:

I know a bank where the wild thyme blows,
Where oxlips and the nodding violet grows,
Quite over-canopied with luscious woodbine,
With sweet musk-roses and with eglantine:,
There sleeps Titania sometime of the night,
Lull'd in these flowers with dances and delight;
And there the snake throws her enamell'd skin,
Weed wide enough to wrap a fairy in.

Ymhlith yr actoresau enwog sydd wedi chwarae'r rôl mae Judi Dench, Michelle Pfeiffer, Maxine Peake a Samantha Eggar.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.