Neidio i'r cynnwys

Tipyn o Stad

Oddi ar Wicipedia
Tipyn o Stad
Enghraifft o:cyfres ddrama i deledu
CyhoeddwrS4C
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2001
Daeth i ben2008
Cwmni cynhyrchuTonfedd Eryri
Dynodwyr

Cyfres ddrama deledu ar S4C ar gychwyn y 2000au oedd Tipyn o Stad a gynhyrchwyd gan Tonfedd Eryri ac wedyn y cwmni newydd-anedig, Cwmni Da. Bu 7 cyfres rhwng 2001 a 2008.[1] Gwenno Hughes a Geraint Jones oedd yn gyfrifol am storïo, gyda Norman Williams a Pauline Williams yn cynhyrchu. Ymysg y tîm sgriptio ar y cyfresi roedd Mirain Llwyd Owen, Mari Emlyn, Paul Griffiths, Gwawr Eilian Williams, William Gwyn, Dwynwen Berry, Gwenno Hughes, Geraint Jones, Annes Glyn, William Jones, Luned Emyr, Pauline Williams, Llinos Snelson a Bryn Fôn. Roedd y gyfres wedi'i lleoli ar stad o dai cyngor dychmygol "Maes Menai" yng Nghaernarfon ac yn dilyn hanes y teulu "Gurkha" neu Jones, gyda Wyn Bowen Harries a Gwenno Elis Hodgkins yn portreadu penaethiaid y teulu.

Atgyfodwyd cymeriadau'r gyfres yn 2022 ar gyfer y gyfres ddrama newydd Stad ar S4C.[1]

Actor Cymeriad Nodiadau
Wyn Bowen Harries Charlie [Gurkha] Jones penteulu - tad
Gwenno Elis Hodgkins Carys [Gurkha] Jones penteulu - mam
Neil Williams Neil [Gurkha] Jones mab
Jennifer Vaughan Heather [Gurkha] Jones merch
Rhodri Meilir Keith [Gurkha] Jones Mab
Siwan Llynor Cheryl [Gurkha] Jones merch Neil
Catrin Roberts Denise cariad Neil
Russell Jones Stud gwerthwr cyffuriau
Lowri Mererid Mair teulu cyfoethog
Dafydd Dafis Gareth
Dewi Snelson Iwan mab Gareth a Mair
Mari Rowland Hughes Gladys Trwyn cymydog
Eleri Ann Robinson Linda wyres Gladys
Dewi Rhys D. I. Huws heddwas
Lisa Jên Brown Gwenan Huws merch D. I. Huws
Tudur Roberts Jimbo cyfaill Stud
Elen Gwynne Siwan / Susan
Katie Louise Brownley (cyfres 1)

Anna Medi Lewis (cyfres 2)

Sioned
Mark Flanagan Ryan
Alun Elidyr Colin
Bethan Gwilym Llinos
Robin Jones Meddyg
Leisa Mererid Joyce mam Cheryl
Gwion Hallam Ymgynghorydd
Louie Thomas Eric Tacsi
Morfudd Hughes Val
Judith Humphries (cyfres 1)

Bethan Dwyfor (cyfres 2)

Rita mam Stud
Mari Emlyn Haf
Rhys Llwyd Richard
Olwen Rees Jini Owen
Ian Saynor Ellis Griffiths
Owain Davies Jones DS / CID Danny
Petula Williams Sandra
Iwan Evans Smel Jones
Hanna Wyn Williams (cyfres 2-4)

Sophie Williams (cyfres 5-7)

Kylie
Llion Wyn Jones Jordan Pritchard
Joseph Cropper (cyfres 2-3)

Leon Wynnestanley (cyfres 4-7)

Iestyn Rhys (cyfres 2)

Gethin Rhun Jack Morgan (cyfres 3)

Dafydd Jones
Dylan Wyn Owen Darren Owen
Cadfan Roberts Jac Murphy
Dyfan Roberts Cliff Jones
Elin Wmffras Ceri Ann Gordon
John Ogwen Robin Gordon
Marged Esli Sheila Gordon
Kai Owen Kevin Evans
Awel Lewis Angie Gordon
Jonathan Nefydd Graham Rowlands
Julian Lewis Jones Guto Price
Robin Ceiriog Rhodri Rees
Sian Wheldon Carol Rees
Nia Medi Donna Murphy
Daniel Higgs Gavin Murphy
Gwenllian Rhys DC / DS Pickard
Philippa Easton Stevie
Hefin Wyn Ian Rees
Rhys ap Trefor Celt
Ethan James Roberts (cyfres 5-7)

Wes Roberts (cyfres 7)

Daniel Jones
Gweno Glyn Beth Rowlands
Calvyn Lewis Liam
Huw Marshall Antony Evans
Ffion Wyn Whitney Marie Evans
Dylan Williams Harley Evans
Sion Llwyd Meilyr Thomas
Sian Naiomi Wendy Hughes
Rhodri Siôn Geraint
Delyth Eirwyn Beverly
Rhys ap William Jason
Bryn Fôn Ed Lovell
Rhodri Trefor Steve
Daniel Lloyd Mici
Liz Armon-Lloyd Karen Lynn
Rhys Richards Gwyn Ellis
Ceri Mill Nerys Ellis
Craig Bee Osian
Byron Michael Kimberley
Dyfrig Evans Scott
Janet Aethwy Iona
Awen Wyn Williams Liz Davies
Maria Pride Claudia Connolly

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Gyda'i brofiad o greu'r cyfresi drama A55 ac Arachnid a bod yn aelod o dîm storïo a sgriptio Pobol y Cwm, Dinas a Glan Hafren, daeth Geraint Jones a Gwenno Hughes at ei gilydd i greu y gyfres Tipyn o Stad yn 2001. Cymerodd y broses 3 blynedd i gyd yn ôl yr awduron,[2] gyda'r bwriad o greu "cyfres ddrama hir dymor yn y Gymraeg wedi ei lleoli yn y Gogledd" a hynny wedi i'r gyfres Pengelli ddod i ben.[2]

"Roeddem yn anelu at greu cyfres pacey, gyffrous, efo digon yn digwydd ynddi, a oedd yn mynd i apelio at bob oedran, yn enwedig pobl ifanc", meddai Geraint yn 2002.[2]

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Prynwyd hen dŷ cyngor ar stad yng Nghaernarfon fel prif gartref i'r teulu Gurkha. Defnyddiwyd nifer o leoliadau o gwmpas tref Caernarfon.

Cynllunydd Coluro - Bethan Jones (cyfres 1

Cynllunydd Gwisgoedd - Gwenda Evans (cyfres 1

Cynllunydd - Anna Wynne Williams (cyfres 1

Camera - Aled Ellis (cyfres 1

Golygydd - Mali Evans (cyfres 1

Cyfarwyddo - Rolant Tomos, Eurwyn Williams, Rhian Mair, Huw Maredudd, Beth Angell a Dyfed Williams.

Ymateb

[golygu | golygu cod]

Llwyddodd cyfresi Bocs Sets Tipyn o Stad ar S4C Clic i ddenu bron i 240,000 o sesiynau gwylio.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Atgyfodi cymeriadau Tipyn o Stad ar gyfer 'spin-off' newydd". Golwg360. 2020-12-04. Cyrchwyd 2025-11-19.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Tipyn o Stad". Sbec. 2 Mawrth 2002.