Thoroughly Modern Millie (sioe gerdd)
Gwedd
| Thoroughly Modern Millie | |
| |
| Poster y sioe wreiddiol ar Broadway | |
|---|---|
| Cerddoriaeth | Jeanine Tesori |
| Geiriau | Dick Scanlan |
| Llyfr | Richard Morris Dick Scanlan |
| Seiliedig ar | Ffilm 1967 Thoroughly Modern Millie |
| Cynhyrchiad | 2002 Broadway 2003 US tour 2003 West End 2005 Taith y DU |
| Gwobrau | Gwobr Tony sioe gerdd gorau Drama Desk Outstanding Musical |
Mae Thoroughly Modern Millie yn sioe gerdd sydd wedi ennill Gwobr Tony. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Jeanine Tesori ac ysgrifennwyd y geiriau gan Dick Scanlan. Ysgrifennwyd y llyfr gan Richard Morris a Scanlan. Mae'r ffilm yn seiliedig ar lyfr o 1967 o'r un enw, ac edrydd hanes merch o'r enw Millie Dillmount sy'n symud i Ddinas Efrog Newydd er mwyn priodi am arian yn hytrach nag am gariad, nod hynod o fodern ym 1922. Yn fuan iawn, mae Millie yn ymhyfrydu yn ffordd y flapper o fyw ond cwyd problemau pan wrth iddi aros mewn gwesty sy'n eiddo i berchennog cylch o gaethweision yn Tsieina ac maent hwy yn ceisio ei dal.
