Thomas o Celano
Gwedd
| Thomas o Celano | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 1190 Celano |
| Bu farw | c. 1260 Val de' Varri |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, hanesydd, cyfansoddwr, hagiograffydd, offeiriad Catholig |
| Adnabyddus am | Dies irae, Vita beati patris nostri Francisci, Tractatus de miraculis, Memoriale in desiderio animae, Legenda sanctae Clarae virginis |
| Dydd gŵyl | 4 Hydref |
Roedd Thomas o Celano (c. 1200 - c. 1255) yn awdur yn yr iaith Ladin ac yn fynach Fransisgaidd, yn enedigol o Celano yn yr Eidal.
Roedd Thomas yn un o aelodau cyntaf urdd Sant Ffransis o Assisi, a sefydlwyd yn 1209. Ysgrifennodd fuchedd (bywgraffiad) Ffransis, sylfaenydd yr urdd.
Mae Thomas yn fwy adnabyddus, fodd bynnag, fel awdur tybiedig yr segwens Ladin enwog, Dies irae, a addaswyd yn ddiweddarach i gael ei chynnwys yn yr Offeren Requiem.