Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough
Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough | |
---|---|
Ganwyd | 1736 |
Bu farw | 1807 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | John Wynn |
Mam | Jane Wynne |
Priod | Maria Stella, Catherine Egmont Perceval |
Plant | Thomas Wynn, Spencer Bulkeley Wynn, John Wynn |
Aelod Seneddol Prydeinig oedd Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough (1736 – 12 Hydref 1807), adnabyddwyd fel Syr Thomas Wynn, 3ydd Barwnig, o 1773 hyd 1776.
Roedd Wynn yn fab i Syr John Wynn, 2il Farwnig. Roedd yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon rhwng 1761 a 1774, a thros St Ives rhwng 1775 a 1780 a thros Biwmares rhwng 1796 a 1807 a gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon rhwng 1761 a 1781. Dilynodd Wynn i Farwnigaeth ei dad yn 1773 ac yn 1776 codwyd i Bendefigaeth Iwerddon fel Barwn Newborough, o Newborough, a elwir heddiw'n Gorey, yn Swydd Loch Garman, Iwerddon. Sylwer felly ei fod yn anghywir cyfeirio at y farwniaeth fel "Baron Niwbwrch". Er bod gan y teulu beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, 'does a wnelo dim byd yn Sir Fôn â tharddiad y teitl.
Priododd Arglwydd Newborough Catherine, merch John Perceval, 2il Iarll Egmont, yn 1766. Ail-briododd yn dilyn ei marwolaeth 1782, i Maria Stella Petronilla, merch Lorenzo Chiappini yn 1786. Roedd plant o'r ddwy briodas. Bu farw'r Arglwydd Newborough ym mis Hydref 1807 ac fe'i olynwyd gan ei fab hynaf o'i ail briodas, Thomas. Ail-briododd y Fonesig Newborough ym 1809, â'r Barwn Ungerg Sternberg o Estonia, cyn marw yn 1843 ym Mharis. Ychydig o gysylltiad oedd rhyngddi â'i phlant wedi 1809.
Rhagflaenydd: Syr John Wynn |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1761–1774 |
Olynydd: Thomas Assheton Smith |
Rhagflaenydd: Adam Drummond William Praed |
Aelod Seneddol St Ives gyda Adam Drummond 1775–1780 |
Olynydd: William Praed Abel Smith |
Rhagflaenydd: Syr Watkin Williams-Wynn |
Aelod Seneddol Biwmares 1796–1800 |
Olynydd: Senedd y Deyrnas Unedig |
Rhagflaenydd: Senedd Prydain Fawr |
Aelod Seneddol Biwmares 1801–1807 |
Olynydd: Edward Pryce Lloyd |
Rhagflaenydd: Iarll Cholmondeley |
Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon 1761–1781 |
Olynydd: Is-iarll Bulkeley |
Rhagflaenydd: Teitl newydd |
Barwniaeth Niwbwrch 1776–1807 |
Olynydd: Thomas John Wynn |
Rhagflaenydd: John Wynn |
Barwnigaeth (Bodvean) 1773–1807 |
Olynydd: Thomas John Wynn |
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Kidd, Charles, Williamson, David (gol.). Debrett's Peerage and Baronetage (rhifyn 1990). New York: St Martin's Press, 1990.
- Tudalen Pendefigaeth Leigh Rayment Archifwyd 2007-08-26 yn y Peiriant Wayback
- www.thepeerage.com