Thomas Williams (Eos Gwynfa)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Williams
Ganwydc. 1769 Edit this on Wikidata
Sir Drefaldwyn Edit this on Wikidata
Bu farw1848 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Thomas Williams (tua 1769 – Tachwedd 1848), a adnabyddir wrth ei enw barddol Eos Gwynfa (amrywiad Eos Gwnfa; hefyd Eos y Mynydd).

Roedd yn frodor o ardal Maldwyn, Powys ac yn enedigol o blwyf Llanfyllin (neu Llanfihangel-yng-Ngwynfa efallai), lle y'i ganed tua'r flwyddyn 1769. Enillai ei damaid fel gwehydd yn ei gartref ym Mhontyscadarn, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, ond roedd yn fardd cynhyrchiol hefyd sy'n adnabyddus fel un o brif awduron carolau a chanu plygain ei oes. Bu farw yn 1848.[1]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd sawl gyfrol o'i waith, yn cynnwys:

  • Telyn Dafydd (1820). Mydryddiad o Salmau Dafydd.
  • Ychydig o Ganiadau Buddiol (1824)
  • Newyddion Gabriel (1825). Carolau.
  • Manna'r Anialwch (1831)
  • Mer Awen (1844)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enid Roberts, Braslun o hanes llên Powys (Gwasg Gee, 1965), tud. 67.