Thomas William Davids

Oddi ar Wicipedia
Thomas William Davids
Ganwyd11 Mehefin 1816 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ebrill 1884 Edit this on Wikidata
Essex Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, hanesydd Edit this on Wikidata

Roedd Thomas William Davids (11 Medi 181611 Ebrill 1884) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn hanesydd eglwysig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Davids yn Abertawe yn blentyn i William Saunders Davies, gweinidog Capel Annibynnol Y Providence a Bridget (née Thomas) ei wraig. Roedd yn ddisgynnydd David Jones (Llan-gan), offeiriad Eglwys Loegr ac un o bregethwyr efengylaidd mawr ei ddydd.

Bu farw ei dad yn Rhagfyr 1816, deufis ar ôl geni Davids a bu farw ei mam yn 1831 pan oedd o'n 15 oed. Cafodd ei fagu wedyn gan ei ewyrth cefnog Thomas Thomas o Lanbedr Felffre. Roedd ei ewyrth am iddo ddyfod yn feddyg, a chafodd rhywfaint o addysg i'w baratoi at y swydd, ond penderfynodd ei fod am ddod yn Weinidog Annibynnol fel ei ddiweddar dad. Aeth i Goleg Homerton ym 1836 i baratoi at y weinidogaeth gan astudio yno hyd 1840.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1840 cafodd Davids gwahoddiad i ddod yn weinidog ar gapel Lion Walk, yn Colchester, ac yno fu hyd ei ymddeoliad ym 1875. Roedd ei weinidogaeth yn un llwyddiannus gan fod cymaint o aelodau a gwrandawyr newydd yn mynychu ei oedfaon bu'n rhaid adeiladu capel newydd llawer mwy ar y safle. Ef bu'n gyfrifol am liwio gwaith a chasglu'r arian angenrheidiol at y prosiect. Roedd y capel newydd yn un ysblennydd a adeiladwyd yn yr arddull gothig.

Yn ogystal â bod yn weinidog ar ei gapel gwasanaethodd Davids ysgrifennydd Undeb Annibynwyr Essex, ysgrifennydd pwyllgor addysg Essex [3] ac fel Ysgrifennydd Cymdeithas Cenhadaeth Gartref ei enwad.

Llenor a hanesydd[golygu | golygu cod]

Ym 1847 ysgrifennodd gwraig Davids traethawd o'r enw The Sunday School. Derbyniodd y traethawd gan bwyllgor Undeb yr Ysgol Sul. O dan olygiaeth cafodd ei gyhoeddi pedair gwaith, ac am rai blynyddoedd fe'i hystyriwyd yn werslyfr safonol ar reoli a threfnu Ysgolion Sul ymhlith yr holl enwadau.[4]

Ym 1862 gofynnwyd iddo i baratoi cyfrol coffa i'r offeiriaid Protestannaidd a chafodd eu troi allan o'u pulpudau ym 1662 gan y Brenin Siarl II. Roedd Deddf Unffurfiaeth 1662 yn mynnu bod yn rhaid i bob offeiriad yn a wrthododd gydymffurfio â'r Llyfr Gweddi Gyffredin erbyn Dydd Sant Bartholomew (24 Awst) 1662 cael ei alltudio o Eglwys Loegr. Cafodd tua 2,500 eu troi allan. Dyma oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y rhwyg mewn Protestaniaeth yng Nghymru a Lloegr rhwng yr eglwys sefydledig a'r eglwysi anghydffurfiol megis yr Annibynwyr. (Bydd yr Annibynwyr yn cael eu cyfeirio atynt yng Nghymru weithiau fel Y Sentars o'r gair Saesneg dissenter un sy'n gwrthod cytuno)

Ymroddodd lafur aruthrol i'r gyfrol hon, gan chwilio cofrestri plwyf Essex, yr Archifdy Cyhoeddus, yr Amgueddfa Brydeinig, Llyfrgell Dr Williams, ac mewn mannau eraill, am bob cyfeiriad at y piwritaniaid a diarddelwyd yn Essex adeg y dadfeddiant ac at hanes crefyddol blaenorol pob plwyf yn y sir. Cyhoeddwyd ffrwyth ei lafur ym 1863 yn The Annals of evangelical nonconformity in the county of Essex from the time of Wycliffe to the Restoration, with memorials of the Essex ministers ejected or silenced in 1660–1662

Yn ogystal â chyhoeddi llyfrau unigol bu Davids hefyd yn cyfrannu erthyglau i gylchgronau megis The British Quarterly Review a chyfrannodd sawl erthygl i The Dictionary of Christian Biography a olygwyd gan Syr William Smith.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1841 priododd Davids a Louisa Winter. Bu iddynt 10 plentyn gan gynnwys y dwyreiniwr amlwg Thomas William Rhys Davids [5]. Bu farw Louisa ym 1853. Priododd Davids am yr ail waith ym 1859 a Mary Spellman.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o anhwylder y galon yn Upton Essex yn 67 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Colchester.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "DAVIDS, THOMAS WILLIAM (1816 - 1884), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd eglwysig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-06.
  2. "Davids, Thomas William (1816–1884), ecclesiastical historian | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-7212. Cyrchwyd 2020-01-06.
  3. "POLICE REGULATIONS NUISANC ETC - The Cambrian". T. Jenkins. 1846-08-21. Cyrchwyd 2020-01-06.
  4. "Notitle - The Principality". David Evans. 1848-03-14. Cyrchwyd 2020-01-06.
  5. "Davids, Thomas William Rhys (1843–1922), orientalist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-32726. Cyrchwyd 2020-01-07.