Thomas Tomkins

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Tomkins
Thomas Tomkins (1572-1656) Composer, Organist and Master of Choristers at Worcester Cathedral.jpg
Ganwyd 1572 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Mehefin 1656 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerwrangon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Cyfansoddwr, organydd Edit this on Wikidata
Mudiad Cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
Plant Nathaniel Tomkins Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Tomkins (1572 - 9 Mehefin 1656) yn gyfansoddwr o ddiwedd cyfnod y Tuduriaid a chychwyn cyfnod y Stuartiaid. Yn ogystal â bod yn un o aelodau amlwg Ysgol Madrigal Lloegr, roedd yn gyfansoddwr medrus o gerddoriaeth bysellfwrdd a chonsort, ac yn un o aelodau olaf yr ysgol firdsinalydd Lloegr.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ganed Tomkins yn Nhyddewi ym 1572.[2] Roedd ei dad, Thomas arall, a oedd wedi symud yno ym 1565 o gartref y teulu yn Lostwithiel yng Nghernyw, yn ficer corawl Cadeirlan Dewi Sant ac yn organydd yr addoldy[3] Daeth tri o hanner frodyr iau Thomas; John, Giles a Robert, hefyd yn gerddorion amlwg, ond heb lwyddo i ennill enwogrwydd Thomas. Erbyn 1594, ac o bosibl mor gynnar â 1586, roedd Thomas a'i deulu wedi symud i Gaerloyw, lle cafodd ei dad ei gyflogi fel is ganon yn yr eglwys gadeiriol. Mae Thomas bron yn sicr wedi astudio o dan William Byrd am gyfnod, gan fod un o'i ganeuon yn dwyn yr arysgrif: "I fy hen a mwyaf parchus Meistr, William Byrd". Mae’n bosib bod Tomkins wedi ei hyfforddi gan Byrd yn y cyfnod hwn, gan fod Byrd wedi'i brydlesu eiddo yn Longney, ger Caerloyw ar y pryd. Er nad oes prawf pendant, mae hefyd yn debygol bod Byrd yn allweddol wrth ddod o hyd i le i’r Thomas ifanc corydd yn y Capel Brenhinol. Roedd yn rhaid i bob corydd yn y Capel Brenhinol hefyd cael lle mewn prifysgol, ac yn 1607 derbyniodd Tomkins gradd B.Mus. o Goleg Magdalen, Rhydychen.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Gadeiriol Caerwrangon

Ym 1596 penodwyd Tomkins yn Organydd yng Nghadeirlan Caerwrangon. Y flwyddyn ganlynol, priododd Alice Patrick, gwraig weddw naw mlynedd yn hyn nag ef, yr oedd ei gŵr Nathaniel, a fu farw ym 1595, wedi bod yn rhagflaenydd Tomkins fel organydd Caerwrangon. Ganed unig fab Thomas, Nathaniel, yng Nghaerwrangon ym 1599, lle bu'n treulio gweddill ei fywyd ac yn tyfu i ddod yn gerddor parchus.

Roedd Tomkins yn adnabod Thomas Morley, un arall o ddisgyblion Byrd. Mae copi o lyfr Morley, Plaine and Easie Introduction to Practicall Musicke (1597) wedi ei lofnodi iddo wedi ei gadw. Ym 1601 cynhwysodd Morley madrigal gan Tomkins yn ei waith pwysig The Triumphs of Oriana.

Ym 1612, bu Tomkins yn goruchwylio'r gwaith o adeiladu organ newydd godidog gan Thomas Dallam, prif gynhyrchydd organau'r dydd, yng nghadeirlan Caerwrangon. Parhaodd i ysgrifennu anthemau pennill, a chyhoeddwyd yn y pendraw ym 1622 yn ei gasgliad o 28 madrigal Songs of 3, 4, 5 and 6 parts, gyda cherdd gyflwynol gan ei hanner frawd, John Tomkins (tua 1587-1638), a oedd erbyn hynny yn organydd Coleg y Brenin, Caergrawnt (yn ddiweddarach yn organydd St Paul's a'r Capel Brenhinol), gyda'r hwn y bu Thomas yn cadw perthynas agos a chariadus ag ef.

Tua 1603 cafodd Tompkins ei benodi yn Fonheddwr Allanol y Capel Brenhinol (Gentleman Extraordinary of the Chapel Royal). Roedd hyn yn swydd er anrhydedd, ond ym 1621 fe'i dyrchafwyd yn Fonheddwr Cyffrdin (Gentleman Ordinary) ac is organydd i'w gyfaill y prif organydd, Orlando Gibbons. Roedd y dyletswyddau cysylltiedig â'r swydd hon yn cynnwys teithiau rheolaidd rhwng Caerwrangon a Llundain. Bu Tomkins yn gwneud y teithiau hyd oddeutu 1639.

Ar farwolaeth y Brenin Iago VI ac I ym mis Mawrth 1625 roedd yn ddyletswydd i Tomkins, a bonheddwyr eraill y Capel Brenhinol i fod yn gyfrifol am gerddoriaeth angladdol Iago a cherddoriaeth coroni ei olynydd Siarl I. Bu'r tasgau hyn yn ormod i Gibbons, a fu farw o strôc yng Nghaergaint, lle'r oedd Siarl i fod i gwrdd â'i ddarpar briodferch, Henrietta Maria o Ffrainc, gan roi mwy o bwysau fyth ar Tomkins. Oherwydd y pla, cafodd y goroni ei gohirio hyd fis Chwefror 1626, gan roi amser i Tomkins gyfansoddi'r rhan fwyaf o'r wyth anthem a ganwyd yn y seremoni. [5]

Diwedd ei yrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1628 cafodd Tomkins ei benodi yn "Gyfansoddwr Cyffredinol Cerddoriaeth y Brenin" gyda thal blynyddol o £40 (tua £2 miliwn o ran gwerth dylanwadol i gymharu â 2017 [6]) fel olynydd i Alfonso Ferrabosco a fu farw. Ond tynnwyd cynnig y swydd yn ôl, wedi i fab Ferrabosco honni ei fod o wedi cael addewid i olynu ei dad.

College Green, Caerwrangon, safle cartref Tomkins

Bu farw Alice, gwraig Tomkins, ym 1642, a chychwynnodd Rhyfel Cartref Lloegr yn yr un flwyddyn. Ymosodwyd ar Gaerwrangon yn gynnar yn y rhyfel a difrodwyd yr eglwys gadeiriol. Yn yr ymosodiad ar y gadeirlan cafodd organ Tomkins wedi ei niweidio'n wael gan y Seneddwyr. Y flwyddyn ganlynol, cafodd tŷ Tomkins ger yr eglwys gadeiriol ei daro'n uniongyrchol gan ergyd canon, gan ei gwneud yn annrhigiadwy am gyfnod hir. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'i nwyddau cartref ac, yn ôl pob tebyg, nifer o'i lawysgrifau cerddorol. Tua'r adeg yma priododd Tomkins ei ail wraig Martha Browne, gweddw clerc lleyg Gadeirlan Caerwrangon.

Bu i wrthdaro pellach a gwarchae ym 1646 achosi difrod mawr i'r ddinas. Gyda'r côr yn cael ei ddiddymu a'r eglwys gadeiriol yn cau, trodd Tomkins ei ddawn at gyfansoddiad ei gerddoriaeth bysellfwrdd a chaneuon gorau. Ym 1647, ysgrifennodd can deyrnged i Thomas Wentworth, Iarll 1af Strafford, ac un arall er cof am William Laud, Archesgob Caergaint, y ddau wedi eu dienyddio yn yr 1640au, a'r ddau yn cael eu hedmygu gan Tomkins. Cafodd y Brenin Siarl ei ddienyddio ym 1649, ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, cyfansoddodd Tomkins, brenhinwr i'r carn, ei ardderchog Sad Pavan: for these distracted times. Bu farw ei ail wraig Martha tua 1653. Heb swydd a bellach yn 81 mlwydd oed, roedd Tomkins mewn anawsterau ariannol difrifol. Yn 1654 priododd ei fab Nathaniel a Isabella Folliott, gweddw gyfoethog, a aeth Thomas i fyw gyda nhw yn Martin Hussingtree, tua phedair milltir o Gaerwrangon. Diolchodd i’w merch yng nghyfraith trwy gyfansoddi ei galiard, The Lady Folliot's in her honour. Ddwy flynedd yn ddiweddarach bu farw a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Martin Hussingtree ar 9 Mehefin 1656.[7]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd a chyhoeddodd Tomkins nifer o fadrigalau. Yn eu plith roedd The Fauns and Satyrs Tripping, a gynhwyswyd yng nghasgliad Morley The Triumphs of Oriana (1601); Caneuon o 3,4,5 a 6 rhan (1622); 76 darn o gerddoriaeth i'r bysellfyrddau (organ, firdsinal, harpsicord), cerddoriaeth consort, anthemau a cherddoriaeth litwrgaidd.[8]

Roedd hefyd yn gyfansoddwr toreithiog o anthemau llawn ac anthemau pennill, gan ysgrifennu mwy na bron unrhyw gyfansoddwr Saesneg arall yn y 17eg ganrif, ac eithrio (o bosib) William Child. Cafodd nifer o'i weithiau eu copïo'n gyfoes i'w ddefnyddio mewn mannau eraill. Sicrhawyd goroesiad ei gerddoriaeth gan eu cyhoeddi wedi iddo farw gan ei fab Nathaniel o dan y teitl, Musica Deo Sacra et Ecclesiae Anglicanae; neu Cerddi Ymroddedig i Anrhydedd a Gwasanaeth Duw, ac at Ddefnydd o Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi eraill Lloegr (William Godbid, Llundain: 1668). Mae Musica Deo Sacra yn cynnwys pum gwasanaeth, pum alaw salm a naw deg pedwar anthem, ac fe'i cyhoeddwyd mewn pum cyfrol un yr un ar gyfer Medius, Contratenor; Tenor; Bâs, a'r Pars Organica.

Cyfansoddiadau (rhanol)[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Adieu, Ye City-Pris'ning Towers
  • Alman
  • Barafostus Dreame
  • Clarifica me Pater
  • Fancy for Two to Play
  • Fantasia a 6 No.3
  • Fantasia a 6 No.4
  • The Fauns and Satyrs Tripping
  • Galliard à 6
  • A Ground
  • I Heard a Voice from Heaven
  • In Nomine
  • Music Divine
  • O, let me live!
  • O, Yes! Has any Found a Lad
  • Out of the Deep
  • Pavan à 4 in F major
  • Pavan à 5 in A minor
  • Pavan à 5 in D minor
  • Pavan à 5 in G major
  • Pavan à 5 in F major
  • Pavan à 5 in D minor
  • Pavan and Galliard Earl Strafford
  • Pavan and Galliard for 6 Viols
  • Pavan Lord Canterbury
  • Pavan
  • Preludium
  • Remember Me, O Lord
  • Sad Paven for these Distracted Tymes
  • See, See the Shepherds' Queen
  • A Short Verse, MB 27
  • Sing unto God
  • Too Much I Once Lamented
  • Ut re mi fa sol la
  • A Verse of 3 parts
  • 3 Verses
  • Weep no more thou sorry Boy
  • When David Heard That Absalom Was Slain

[9]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

[10]

Blwyddyn Teitl Artist
1989 Cathedral Music Thomas Tomkins; The Choir of St George's Chapel, Windsor Castle, Christopher Robinson, James Judd
1991 The Great Service Tomkins; The Tallis Scholars, Peter Holman
1992 Englische Virginalmusik Tomkins, Bull, Byrd, Gibbons, Farnaby; Gustav Leonhardt
1994 Complete Keyboard Music Vol.1 Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott
1994 For Two to Play Mozart, Handel, J.C. Bach, Tomkins; Davitt Moroney, Olivier Baumont
1995 Consort Music for Viols and Voices / Keyboard Music Thomas Tomkins
1996 Complete Keyboard Music Vol. 2 Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott
1997 Complete Keyboard Music Vol. 3 Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott
1997 Complete Keyboard Music Vol. 4 Thomas Tomkins; Bernhard Klapprott
1999 Choral and Organ Works (Oxford Camerata feat. cond: Jeremy Summerly) Thomas Tomkins
2001 Barafostus Dreame: Music for Harpsichord and Virginals Thomas Tomkins; Carole Cerasi
2007 These Distracted Times The Choir Of Sidney Sussex College, Cambridge, David Skinner
2013 English Royal Funeral Music Purcell, Morley, Tomkins; Vox Luminis, Lionel Meunier
2018 The Passinge Mesures (Music Of The English Virginalists) Mahan Esfahani - Bull, Byrd, Farnaby, Gibbons, Inglot, Tomkins

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Irving, J. (2009, October 08). Tomkins, Thomas (1572–1656), composer. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 22 Tachwedd 2018
  2. Encyclopaedia Britannica Thomas Tomkins ENGLISH COMPOSER AND ORGANIST adalwyd 22 Tachwedd 2018
  3. D.R.A. Evans: ‘The Life and Works of John Tomkins’, Welsh Music, 6/4 (1980), 56–62.
  4. Anthony Boden: Thomas Tomkins: The Last Elizabethan. Ashgate Publishing 2005. ISBN 0-7546-5118-5
  5. John Irving: The Instrumental Music of Thomas Tomkins, 1572–1656. Garland Publishing, New York 1989. ISBN 0-8240-2011-1
  6. Calculator - UK Inflation adalwyd 22 Tachwedd 2018
  7. Huray, P., Irving, J., & McCarthy, K. (2014, July 01). Tomkins family. Grove Music Online adalwyd 22 Tachwedd 2018
  8. Trafodion Cymdeithas y Cymrodorion 1 Ionawr 1931 The contribution of Welshmen to music adalwyd 22 Tachwedd 2018
  9. IMSLP - Cyfansoddiadau Tompkins adalwyd 22 Tachwedd 2018
  10. MusicBrainz Thomas Tomkins (1572 – 9 June 1656) adalwyd 22 Tachwedd 2018