Thomas Richards (gramadegydd)
Gwedd
| Thomas Richards | |
|---|---|
| Ganwyd | 1710 |
| Bu farw | 20 Mawrth 1790, 1790 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd |
Clerigwr, gramadegydd a geiriadurwr o Gymru oedd Thomas Richards (c. 1710 – 20 Mawrth 1790). Roedd yn gurad Llangrallo (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cyhoeddodd un o eiriaduron Cymraeg mwyaf cynhwysfawr y ddeunawfed ganrif, Antiquæ linguæ Britannicæ thesaurus: being a British, or Welsh-English dictionary, ynghyd â gramadeg Cymraeg yn ei ragflaenu A brief introduction to the ancient British, or Welsh language: being a compendious and comprehensive grammar. Ymddangosodd y ddau mewn un gyfrol a gyhoeddwyd ym Mryste ym 1753.
Yn ogystal â hynny, cyfieithodd waith Philip Morant, The cruelties and persecutions of the Romish church display’d (Llundain, 1728) i'r Gymraeg fel Creulonderau ac herlidigaethau eglwys Rufain (Caerfyrddin, 1746).