Thomas Parry (marsiandïwr)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Parry
Ganwyd1768 Edit this on Wikidata
Powys Edit this on Wikidata
Bu farw24 Awst 1824 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson busnes Edit this on Wikidata
Cofeb Thomas Parry ym Madras.
Pencadlys EID Parry yn Chennai, India.

Marsiandïwr Cymreig oedd Thomas Parry (17681824), sydd â lle pwysig yn hanes economi Tamil Nadu yn India.

Ganed Thomas Parry yn drydydd fab Edward Parry ac Anne Vaughan, o Blas Leighton, ger Y Trallwng ym Maldwyn (Powys). Dilynodd yrfa fel marsiandïwr. Pan sylweddolodd y botensial i fusnes a marsiandïaeth yn India, aeth Parry i ddinas Madras (Chennai), De India, ar ddiwedd y 1780au. Yno sefydlodd fusnes bancio a nwyddau ar 17 Gorffennaf 1788.[1] Bychan oedd y busnes yn y dechrau, ond tyfu a wnaeth a daeth 'Parry' yn enw cyfarwydd yn Chennai. Heddiw mae'r cwmni a sefydlodd yn dal i fynd, wrth yr enw (Cwmni) EID Parry. Dyma'r cwmni (sy'n dal i redeg) ail hynaf yn India heddiw.[2]

Enwir un o ardaloedd busnes canolog mwyaf Chennai ar ôl Thomas Parry, sef Parry's Corner (Cornel Parry). Lleolir pencadlys cwmni EID Parry yno o hyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "ENTERPRISE IN CHENNAI - DOWN THE AGES". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-26. Cyrchwyd 2009-07-22.
  2. "S. Muthia: "The house that Parry built"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-28. Cyrchwyd 2009-07-22.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.