Thomas Lloyd Jones (Gwenffrwd)
Mae'r erthygl hon am y bardd Cymraeg o Dreffynnon. Am ddefnyddiau eraill gweler Gwenffrwd.
| Thomas Lloyd Jones | |
|---|---|
Llawygrifen Gwenffrwd ar lawysgrif ei gerdd i goffadwriaeth Thomas Beynon, a gyflwynwyd i Eisteddfod Caerdydd, 1834. Nid oes llun o Gwenffrwd wedi goroesi. | |
| Ffugenw | Gwenffrwd |
| Ganwyd | 1810 Sir y Fflint |
| Bu farw | 16 Awst 1834 Spring Hill |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
Bardd o Gymro oedd Thomas Lloyd Jones (9 Tachwedd 1810[1] – 16 Awst 1834[2]), a oedd yn fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Gwenffrwd. Er iddo farw'n ifanc roedd yn fardd arloesol a ystyriwyd yn athrylith gan feirdd ei ganrif ei hun;[3][4] ac yn ffigwr pwysig yn nhraddodiad y canu telynegol Cymraeg.[5] Roedd ymhlith y beirdd cyntaf i ysgrifennu soned yn Gymraeg.[5][6]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]
Bu llawer o fanylion ynghylch bywyd Gwenffrwd yn anhysbys hyd adeg cyhoeddi astudiaeth trylwyr Huw Williams yn 1989; mae ffynhonellau hŷn ambell dro'n gwrth-ddweud ei gilydd neu'n gwneud datganiadau ffeithiol anghywir, er enghraifft y cofnod yn y Bywgraffiadur sy'n awgrymu mai ym Mrynffordd y ganwyd ef,[7] ffaith a ddangoswyd i fod yn anghywir gan Huw Williams.[1] Ganwyd Gwenffrwd rywle'n agos i Dreffynnon, Sir y Fflint, ond nid yw'r union man yn hysbys. Mewn sawl cerdd mae Gwenffrwd yn cyfeirio at ei 'bentref' neu ei 'fwthyn enedigol', a defnyddiodd yr enw Rhyd-wen (sef enw ar bentref cyfagos sydd bellach yn ran o Dreffynnon) yn ei gyfieithiad o 'The Deserted Village' Oliver Goldsmith ond mae'n bosib mai dyfais barddonol oedd hyn wrth Gymreigio testun Saesneg, ac mai yn nhref Treffynnon ei hun y ganwyd ef mewn gwirionedd. Mae ei enw yn ymddangos ar gofrestr y dref sy'n awgrymu y ganwyd ef rhywle yn yr ardal, naill ai'r dref ei hun (a fyddai'n dref gymharol fawr a phrysur, nid pentref), neu un o'r pentrefi cyfagos, a dangosodd Williams o'r gofrestr mai ar 9 Tachwedd oedd hynny, yn fab i Thomas ac Ann Jones; roedd ganddo chwaer hŷn, Louisa.[1] 'Thomas Jones' oedd yr enw ar y gofrestr; mae'n debyg mai yn ddiweddarach ychwanegwyd y 'Lloyd', ond nid yw'n hysbys pryd na pham.[1]
Roedd cefndir ei deulu yn ddigon cyffredin ac mae'n anhebyg y byddai wedi cael llawer o addysg ffurfiol. Pan yn blentyn o hyd roedd Gwenffrwd eisoes wedi dechrau gweithio ym melinau cotwm y dref;[8] ond erbyn 1828 roedd wedi dechrau gweithio fel clerc i gyfreithiwr lleol;[8] dechreuodd gyfansoddi cerddi tua'r un adeg, gan ddewis yr enw barddol 'Gwenffrwd' ar ôl Gwenffrwd, nawddsantes y dref. Nid yw'n hysbys gan bwy yn union y dysgodd grefft barddoni, fodd bynnag roedd sawl ffigwr llenyddol yn byw yn Nhreffynnon yr un adeg, gan gynnwys yr emynydd David Jones (1770-1881) a'r bardd Alun (1797-1840) oedd yn gwasanaethu fel curad Eglwys y plwyf. Coleddai Alun a Gwenffrwd syniadau bur debyg ynghylch y mesurau caeth, ond nid yw'n hysbys bod y bardd hŷn wedi ei ddysgu yn uniongyrchol. Erbyn 1828 roedd ei gerddi cynharaf wedi dechrau ymddangos yn y wasg.[9]
Treffynnon a Dinbych
[golygu | golygu cod]Yn 1829 daeth i sylw drwy ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Tegeingl; nid fel mae rhai ffynonellau'n hawlio am bryddest ar 'Longddrylliad' (sef cystadleuaeth arall yn yr un Eisteddfod) ond am gyfieithu cerdd 'Hymn of the Seasons' y bardd Albeinig James Thomson (1700-1748); Alun oedd yn beirniadu.[10] Daeth ei lwyddiant ag ef i sylw y curad oedrannus Thomas Beynon (1744-1833), un o'r Hen Bersoniaid Llengar, a ddaeth yn noddwr i'r bardd ifanc; byddai Gwenffrwd yn ysgrifennu marwnad iddo yn 1834. Yn bwysicach fyth oedd ei gyfarfod yn yr un digwyddiad â'r gramadegydd William Owen Pughe (1759-1835) fyddai'n ddylanwad sylweddol (ac o bosib negyddol) ar y bardd ifanc.[10]
Yn 1830 symudodd i Ddinbych (nid yw'n hysbys beth yn union oedd ei swydd yno) lle treuliodd lawer o amser gyda Pughe yn ogystal â Thomas Gee - nid y cyhoeddwr enwog ond yn hytrach ei dad, oedd hefyd yn argraffwr, ac a drefnodd cael cyhoeddi y gyfrol Ceinion Awen y Cymmry dan olygyddiaeth Gwenffrwd.[11] Y gyfrol hon, a gyhoeddwyd yn 1831, oedd un o'r Blodeugerddi Cymraeg cynharaf, ac roedd wedi'i fwriadu i ddarparu mynediad rhad at lenyddiaeth Gymraeg o Ganu Heledd hyd at Goronwy Owen i bobl gyffredin. Roedd hefyd yn cynnwys gwaith llawer o gyfoeswyr Gwenffrwd megis Aun, Pugh a Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855); yn ogystal, cynhwysodd Gwenffrwd ugain o'i gerddi ef ei hun, pob un ohonynt yn y mesurau rhydd a llawer ohonynt yn gyfieithiadau o'r Saesneg, ynghyd â thraethawd ar farddoniaeth Gymraeg yn yr hwn ymosododd ar y mesurau caeth:
Gyda golwg ar y mydrau hyny, a elwir yn dra phriodawl 'Y Mesurau Caethion', methwyf ddirnad paham (oddieithr o arferiad yn unig) y rhoddant hwy, yn hytrach na mesurau ereill, yr enwad o Fardd ar yr hwn a fo hyddysg ynddynt: cadarnhâ hanesiaeth ini mai mewn cyfnod tywyll eu breinniwyd gyntaf; pan oedd barddoneg, fal pob addysg arall, dan iau haiarnaidd pabyddion a mynachod, y rhai a waharddynt ddoethineb a gwellhad gwybodaeth.[12]
Yn Eisteddfod Biwmares 1832 bu'n fuddugol ar farwnad i un arall o'r Hen Bersoniaid, Ifor Ceri (1770-1829), ac roedd ymhlith y beirdd buddugol a dderbyniodd eu gwobrau o law y Dywysoges Victoria yn yr Eisteddfod 'Frenhinol' honno.[13]
Lerpwl a'r Unol Daleithiau
[golygu | golygu cod]Symudasai o Ddinbych i Lanelwy yn gynnar yn 1832, unwaith eto i weithio fel clerc i gyfreithiwr, nes cael swydd arall yn ddiweddarach yr un flwyddyn yn ninas Lerpwl fel clerc i gwmni masnachol.[13] Tua Gorffennaf 1833 fodd bynnag roedd wedi gadael y ddinas honno am yr Unol Daleithiau. Honwyd mewn rhai ffynhonellau adeg ei farwolaeth mai er mwyn ymchwilio i hynt Goronwy Owen ac/neu Madog ab Owain Gwynedd yr aeth, ond er iddo'n sicr wneud ymholiadau ynghylch Goronwy mae hyn yn anhebyg iawn ym marn Huw Williams sy'n priodoli ei ymfudo i resymau ariannol cyffredin.[14] Fodd bynnag mewn erthygl yn Y Drych nad yw Williams yn ei chrybwyll yn ei astudiaeth ef, awgrymir bod Gwenffrwd yn dioddef o broblemau yfed, ac iddo gael ei orfodi i adael ei swydd.[4]

Parhaodd i gyfrannu at y wasg Gymraeg o'i alltudiaeth, gan gyfansoddi ei gerdd 'Syniadau ar y Môr' yn ystod y daith ei hun, ac anfon ei gerddi at gyfnodolion fel Y Gwyliedydd a Seren Gomer. Treuliodd gyfnodau yn Philadelphia a Dinas Efrog Newydd.[3] Nid yw'n hysbys beth yn union oedd yn ei wneud yno i gynnal ei hun yn America, ond yn ogystal â chyfrannu at y cyfnodolion Cymraeg adref cyfrannodd gerddi Saesneg at gylchgronau lleol. Bu hefyd yn ymchwilio i hanes y bardd Cymraeg Goronwy Owen, a ymfudasai i America yn y ganrif flaenorol ac a ddaeth yn destun cerdd gan Gwenffrwd.[3] Erbyn diwedd 1833 roedd wedi symud eto i Mobile yn Alabama.[3] Er bod Mobile bellach yn ddinas gymharol fawr roedd mynd drwy gyfnod o dwf ar y pryd; cofnodir yn y wasg lleol bod Gwenffrwd yn gwasanaethu fel athro ysgol pan fu farw o'r dwymyn felyn yn Awst 1834.[14]
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Oherwydd y dryswch bywgraffyddol ac absenoldeb casgliadau ffurfiol o'i farddonieth, weithiau priodolir cerddi i Gwenffrwd nad ydynt yn bodoli, er enghraifft pryddest ar 'Longddrylliad'[11] y dangosodd astudiaeth Huw Williams nad Gwenffrwd oedd ei hawdur.[10] Serch hynny, ac er gwaethaf ei fywyd byr, yn ychwanegol at yr 20 o gerddi o'i eiddo ymddangosodd yn Ceinion Awen y Cymmry mae rhyw 30 o gerddi wedi'u rhestri ganddo yn astudiaeth Huw Williams, pob un ohonynt yn gerddi rhydd: telynegion fel 'Bedd y Morwr Mwyn', 'I Mary', 'Y Gaeaf' a phryddestau cymharol fer fel 'Hynt y Plentyn Alltud' (a fwriadwyd fel y rhan gyntaf o arwrgerdd ar Goronwy Owen) a 'Syniadau ar y Môr' yw'r mwyafrif ynghyd ag un soned, 'Ganuan' (gweler isod). Cywair Rhamantaidd sydd i'w holl waith, gyda thestunau fel y bedd, y môr, colled, hiraeth am y gorffennol a hiraeth yr alltud yn gyffredin iawn yn ei waith: llawer o'r rhain yn berthnasol i'w fywyd yntau, ond hefyd yn ffasiynol ymhlith y beirdd Saesneg Rhamantaidd oedd yn ddylanwad bwysig arno.[15] Yn ogystal a'i waith barddonol ei hun, cyfieithodd gerddi gan sawl llenor Saesneg, yn cynnwys darnau o waith Thomas Gray, Felicia Hemans ac Oliver Goldsmith.[11]
Hyd yn oed yn ystod ei oes byr ei hun roedd Gwenffrwd yn fardd poblogaidd iawn ymysg beirdd eraill; ar ôl iddo ymfudo cyhoeddwyd nifer o gerddi yn erfyn arno i ddychwelyd i Gymru.[16] Wedi ei farwolaeth cyfansoddwyd nifer o gerddi teyrnged iddo gan gynnwys rhai gan Cawrdaf ac I. D. Ffraid.[17] Yn y cyfnod ar ôl iddo farw, disgrifiodd Daniel Silvan Evans ef fel y blaenaf o feirdd canu rhydd yn y Gymraeg;[18] ac ystyriai Alun bod cerdd Gwenffrwd 'Syniadau ar y Môr' yn "[g]yfansoddiad a ragorai ar ddim yn yr iaith Gymraeg", er bod Huw Williams yn ei ystyried "mewn rhannau yn hynod o aneglur o safbwynt mynegiant".[3] Erbyn yn ddiweddarach yn y ganrif roedd yn cael ei alw'n 'athrylith'.[4] Roedd David Lloyd George yn hoff o ddyfynu o gerdd gerdd Gwenffrwd 'Bedd y Morwr Mwyn'.[19]
Er nad yw ei fri yr un mor uchel erbyn heddiw, mae'n parhau'n ffigwr o ddiddordeb academaidd a llenyddol: "Nid cymeriad dibwys yn hanes llenyddiaeth y genedl mo Gwenffrwd"[20] ac yn rhinwedd ei ymdrech i ddyrchafu'r mesurau rhydd, ystyrir ef yn arloeswr ar y bryddest a'r soned.[5] Gwenffrwd oedd un o'r beirdd Cymraeg cyntaf i ysgrifennu soned: cyhoeddwyd ei gerdd 'Ganuan' (gair am soned o eiriadur William Owen Pughe) yn Seren Gomer Tachwedd 1834;[6] rhyw ugain mis wedi i'r soned Gymraeg gyntaf (anhysbys) ymddangos yn rhifyn Chwefror 1833 Y Drysorfa.[21] Ar y sail hwn mae wedi'i ddisgrifio'n 'arloeswr' ym maes y Soned Gymraeg,[6][5] er mai un yn unig ohonynt a gyfansoddodd. Tueddir i drafod Gwenffrwd ochr-yn-ochr â beirdd telynegol eraill ei oes megis Alun ac Ieuan Glan Geirionydd a goleddai syniadau tebyg ynghylch y mesurau barddol; Gwenffrwd oedd y mwyaf uchelgeisiol o'r beirdd yma ym marn Huw Meirion Edwards.[15]
Y bai mwyaf cyffredin a briodolir i waith Gwenffrwd yw dylanwad ieithwedd sathredig William Owen Pughe: nodir yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Gymraeg bod "ieithwedd wneuthuriedig, ffug yn difetha llawer o'i waith, ond ceir ganddo rai telynegion pur lwyddianus"[5] ac mae Huw Meirion Edwards yn sôn am y "Pughe-isms that contaminate his work".[22] Cytuna Huw Williams bod ieithwedd Pughe yn fai ar ei waith, ond bod ei gerddi gorau fel 'Bedd y Morwr Mwyn' i raddau helaeth yn rhydd o'i ddylanwad negyddol.[23] Nid oes cyfrol gyfan o'i farddoniaeth ef wedi'i gyhoeddi erioed; ond roedd yn fwy nag arbrofwr â ffurf:
"Despite the obsession with epic-type poetry Gwenffrwd... is most effective when confined to more short-winded compositions which are less prone to Pughe's linguistic influence. Although his belief in the transcendent power of imagination is less apparent here, some of the poems have an intensity of feeling which sets them apart from most contemporary Welsh secular poetry.[22]
Yn ei gerddi gorau "While he lacked the technical virtuosity of Alun and Ieuan Glan Geirionydd... he did introduce a deeper personal note to Welsh lyric poetry which was not fully developed until the dawning of the new century."[24] Mae tair cerdd o'i eiddo yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, sef 'Bedd y Morwr Mwyn', 'Fy Mwthyn Enedigol', a 'Chân y Bardd wrth Farw'.
Gweler Hefyd
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Beirdd Cymraeg eraill o'r 19g fu farw'n ifanc oedd Ann Griffiths (1776-1805), Golyddan (1840-1862) a Ben Bowen (1878-1903).
Defnyddiodd eraill amrywiaethau ar 'Gwenffrwd' fel enwau barddonol yn ystod y 19g, er enghraifft Gwilym Gwenffrwd (William Theophilus Thomas; 1824-1899) a Gwenffrwd Gwent (Thomas Jones; 1830-1875).
Ffynhonellau
[golygu | golygu cod]- Edwards, Huw Meirion (2000). "The Lyric Poets". In Edwards, Hywel Teifi (gol.). A Guide to Welsh Literature 1800-1900. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 97–125.
- Williams, Huw (1989). Thomas Jones (Gwenffrwd). Gwasg Gee.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Williams, t. 15-16.
- ↑ Williams, t. 35.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Williams, t. 29-31.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 'Yr Awengar Gwenffrwd', Y Drych, 8 Chwefror 1883, tt.1-2.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).t.420
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Williams, t. 12.
- ↑ "JONES, THOMAS LLOYD ('Gwenffrwd '; 1810 - 1834), bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 8.0 8.1 Williams, t. 17-18.
- ↑ Williams, t. 19.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Williams, t. 21-22.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
- ↑ Thomas Lloyd Jones (gol.) 1831 Ceinion Awen y Cymmry, Dinbych:Clwydwasg/Thomas Gee; t.vii
- ↑ 13.0 13.1 Williams, t. 28.
- ↑ 14.0 14.1 Williams, t. 38-41.
- ↑ 15.0 15.1 Edwards, t. 110.
- ↑ Williams, t. 30.
- ↑ Williams, t. 46.
- ↑ Daniel Silvan Evans (1846) Telynegion.
- ↑ Edwards, t. 112.
- ↑ Williams, t. 10.
- ↑ Alan Llwyd (gol.) 1980 Y Flodeugerdd Sonedau, Abertawe: Christopher Davies. t.10
- ↑ 22.0 22.1 Edwards, t. 111-2.
- ↑ Williams, t. 33.
- ↑ Edwards, t. 113.