Thomas Jones (Gogrynwr)
Gwedd
| Thomas Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Gogrynwr |
| Ganwyd | 1822 Dolgellau |
| Bu farw | 1854 Llandegla |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | meddyg, cerddor |
Meddyg a cherddor oedd Thomas Jones (1822 – 1854) a elwid hefyd yn Gogrynwr.
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed ym "Mronant", Dolgellau yn 1822, yn fab i fferyllydd, a sicrhaodd fod ei fab hefyd yn derbyn addysg mewn meddygaeth. O Ddolgellau aeth i'r coleg yn Lerpwl ac yna Wrecsam a Chorwen.
Yn 32 oed symudodd i "Benstryt", Llandegla lle bu farw yn 1854 yn 32 oed.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Gadawodd ar ei ôl gyfrol o gerddoriaeth a chantata "Gweddi Habacuc", sef cyfansoddiad a ddanfonodd i Eisteddfod Porthmadog yn 1851. Achosodd ei lythyrau, a gyhoeddodd yn Yr Amserau dipyn o gythrwfwl, gan ei fod yn feirniadol iawn o feirniadaeth a gafodd mewn eisteddfod arall - Eisteddfod Bethesda.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 27 Tachwedd 2017.