Thomas Herring

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Herring
ThomasHerring.jpg
Ganwyd 1693 Edit this on Wikidata
Norfolk Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Mawrth 1757 Edit this on Wikidata
Croydon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Offeiriad Edit this on Wikidata
Swydd Archesgob Efrog, Archesgob Caergaint, Esgob Bangor Edit this on Wikidata

Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1737 hyd 1743 ac yn ddiweddarach yn Archesgob Efrog ac yn Archesgob Caergaint oedd Thomas Herring (1693 - 23 Mawrth 1757).

Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Wisbech a Choleg yr Iesu, Caergrawnt. Roedd yng Nghaergrawnt gyda Matthew Hutton, a'i dilynodd ym mhob un o'i swyddi yn nes ymlaen.

Daeth yn gaplan i'r brenin Siôr II yn 1728, ac apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1737, Daeth yn Archesgob Efrog yn 1743 ac yn Archesgob Caergaint yn 1747, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth.