Thomas Dafydd
Gwedd
Thomas Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 18 g |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd gwlad ac emynydd o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Dafydd (fl. 1765 - 1792).
Oes a gwaith
[golygu | golygu cod]Roedd Thomas Dafydd yn frodor o blwyf Llanegwad yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei ddyddiad geni yn ansicr ac ychydig a wyddom amdano.[1]
Canai farwnadau yn ei sir enedigol. Cyhoeddodd 11 casgliad bach o emynau yn ystod ei oes, pump yn gyfres dan y teitl Taith y Pererin (gan ddynwared teitl llyfr enwog John Bunyan, Taith y Pererin), a chwech arall fel cyfrolau unigol. Roedd dipyn o fynd ar y casgliadau hyn yn Sir Gaerfyrddin yn oes y bardd, ond ni chenir ei emynau heddiw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dafydd, Thomas". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 30 Mai 2023.