Neidio i'r cynnwys

Thomas Barker

Oddi ar Wicipedia
Thomas Barker
Ganwyd1769 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1847 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
TadBenjamin Barker I Edit this on Wikidata
PlantThomas Jones Barker, John Joseph Barker Edit this on Wikidata
Llinachteulu Barker Edit this on Wikidata

Arlunydd tirwedd a bywyd gwledig oedd Thomas Barker (176911 Rhagfyr 1847) a elwir yn Barker of Bath.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Barker ym 1769, yn Nhrosnant ger Pont-y-pŵl, Sir Fynwy yn fab i Benjamin Barker ac Anne ei wraig. Roedd Benjamin Barker hefyd yn arlunydd yn arbenigo mewn lluniau o geffylau[1].

O oedran cynnar dangosodd Barker dalent nodedig am dynnu ffigurau a chynllunio tirweddau; er na chafodd byth wers mewn naill ai darlunio neu beintio. Pan oedd Barker yn un ar bymtheg oed symudodd ei deulu i Gaerfaddon[2] lle daeth ei dalentau cynhenid i sylw datblygwr eiddo ac adeiladwr coets o'r enw Charles Spackman. Aeth Barker i fyw i gartref Spackman gan fynychu Ysgol Ramadeg Shepton Mallet am gyfnod ar draul ei noddwr. Wrth aros yng nghartref Spackman miniodd ei grefft trwy gopïo a dynwared tirweddau'r ysgolion Eidaleg a Fflemeg, yn ogystal â rhai o Gainsborough, a oedd wedi byw yng Nghaerfaddon 1759-1774.

Bywyd fel artist

[golygu | golygu cod]
Hampton Rocks yn y Bore

Ym 1790 trefnodd Spackman arddangosfa o waith Barker yng Nghaerfaddon; profodd yr arddangosfa yn broffidiol i ddau ohonynt. Ar ôl hynny anfonodd Spackman Barker i Rufain am dair blynedd, lle bu'n astudio'n ddyfal a dysgu'r grefft o beintio ffresgo. Cynhaliwyd ail arddangosfa yng Nghaerfaddon ym 1793 a oedd yn cynnwys gwaith cafodd ei anfon yn ôl o Rufain er mwyn i Spackman ei werthu.[3]

Wrth ddychwelyd i Wledydd Prydain ym 1793 canfyddodd Barker bod ei noddwr ar fin dod yn fethdalwr ac yn methu parhau efo'i nawdd. Gan hynny sefydlodd Barker ei hun yn Llundain gan arddangos rhai o'i luniau o'r Eidal yn yr Academi Frenhinol, ond heb fawr o lwyddiant. Dychwelodd i Gaerfaddon ym 1800. Roedd Barker yn arddangos yn achlysurol yn yr Academi Frenhinol a'r Sefydliad Prydeinig dros gyfnod o hanner can mlynedd, ac yn ystod y cyfnod y bu'n arddangos bron i gant o luniau. Roedd yn artist toreithiog, a phaentiodd ystod eang o bynciau.

Yn ei anterth yr oedd lluniau Barker yn hynod boblogaidd ac yn cael eu copïo ar bron pob deunydd bosibl gan gynnwys Crochenwaith Swydd Stafford, Porslen Swydd Gaerwrangon, nwyddau cotwm Manceinion a llieiniau Glasgow.

Mae chwech o beintiadau gan Barker yn Oriel y Tate, gan gynnwys Coediwr a'i Gi Mewn Storm (a gyflwynwyd yn wreiddiol i Oriel Genedlaethol Prydain ym 1868) a nifer o dirweddau.[4]

Mae tri o baentiadau Barker, Tirwedd yn yr Eidal 1808, Tirlun gyda Rhaeadr a Thirlun gyda Gwartheg yn Oriel Gelf Wolverhampton.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ym 1803 ymbriododd a Priscilla Jones, a bu iddynt wyth o blant. Daeth dau o'i feibion Thomas Jones Barker a John Joseph Barker hefyd yn arlunwyr o fri.

Bu farw yng Nghaerfaddon ar 11 Rhagfyr 1847.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]