Thomas Becket

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Thomas à Becket)
Thomas Becket
Darlun o lofruddiaeth Thomas Becket yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwydc. 21 Rhagfyr 1119 Edit this on Wikidata
Cheapside Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1170 Edit this on Wikidata
Eglwys Gadeiriol Caergaint Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, barnwr, offeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Blodeuodd12 g Edit this on Wikidata
SwyddRoman Catholic Archbishop of Canterbury, Arglwydd Ganghellor Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Rhagfyr Edit this on Wikidata
TadGilbert Becket Edit this on Wikidata

Archesgob Caergaint o 1162 hyd ei farwolaeth oedd Thomas Becket, hefyd Thomas à Becket (tua 21 Rhagfyr 111829 Rhagfyr 1170).

Ganed ef yn Llundain, yn fab i farnachwr Normanaidd. Aeth i ddinas Paris i astudio diwinyddiaeth, Yn 1155, daeth yn ganghellor i Harri II, brenin Lloegr, a daeth yn gyfaill agos i'r brenin. Yn 1162, daeth yn Archesgob Caergaint. Yn 1164, ceisiodd Harri ddod a'r eglwys dan ei awdurdod, a gwrthwynebwyd ef gan Becket. Bu raid i'r archesgob ffoi i abaty Pontigny yn Ffrainc. Yn 1170, gorfodd y Pab Alecsander III y brenin Harri i ganiatau i Becket ddychwelyd i Loegr.

Tua diwedd y flwyddyn honno, yn dilyn sylwadau gan y brenin, a ofynnodd pwy fyddai'n cael gwared o Becket, llofruddiwyd yr archesgob gan bedwar marchog Normanaidd yn Eglwys Gadeiriol Caergaint. Ystyrir ef fel merthyr, ac yn 1173 cyhoedd y Pab ef yn sant. Daeth ei fedd yn yr eglwys gadeiriol yn gyrchfan i bererinion.

Daeth Becket i wrthdrawiad ag Owain Gwynedd. Roedd Owain wedi priodi Cristin ferch Gronw, oedd yn gyfneither iddo; rhywbeth a waherddid gan ddeddfau'r eglwys. Pwysodd Becket ar Owain i ysgau Cristin, a phan wrthododd Owain, esgymunwyd ef.

Mae sawl gwaith llenyddol sy'n ymdrin a Thomas Becket. Ymhlith y mwyaf adnabyddus ohonyn nhw, mae drama fydryddol T. S. Eliot, Murder in the Cathedral (1935), a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Thomas Parry fel Lladd wrth yr Allor. Drama Ffrengig yw Becket (1959) gan Jean Anouilh; fe'i haddaswyd i'r Saesneg a daeth yn sail i'r ffilm 1964 o'r un enw gyda Richard Burton yn y rhan deitl.