Thesaurus Linguae Latinae et Cambrobritannicae
| Enghraifft o: | llawysgrif, geiriadur |
|---|---|
| Awdur | Thomas Wiliems |
| Iaith | Lladin, Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Geiriadur Lladin - Cymraeg gan yr ieithyddwr ac hynafiaethydd, Thomas Wiliems o Ardda'r Mynaich ym mhlwyf Trefriw, Arllechwedd Isaf, Sir Gaernarfon (ganed 1545 neu 1546 - marw 1623)[1] yw Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ.
Y Geiriadur
[golygu | golygu cod]Y geiriadur Lladin-Cymreg yma yw'r hyn mae Wiliems yn fwyaf adnabyddus amdano. Mae ar ffurf llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (rhif catalog yw Peniarth 228) ac, mae'n debyg, mai rhwng 4 Mai 1604 a 2 Hydref 1607 y cynhyrchodd.
Gweithiodd Wiliems tuag at cynhyrchu'r llawysgrif (er mai ei fwriad oedd ei chyhoeddi fel llyfr) drwy gadw rhyw fath o lyfr nodiadau (Peniarth MS 188), a drefnodd trwy gymryd y geiriadur Lladin-Saesneg, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae (1587) gan Thomas Thomas, argraffydd cyntaf Prifysgol Caergrawnt, fel sail ac ychwanegu Cymraeg ati.
Cwblhawyd y gwaith hwn yn 1607 o dan y teitl llawn, Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ or Trysawr yr iaith Laidin ar Gymraec, ne'r Geiriadur coheddocaf a'r wiriathaf o wir aleitiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith yn y Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604.[1] Yn ôl y rhagair, treuliodd Wiliems 30 mlynedd yn casglu deunydd, a gwnaeth hynny er mwyn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, a oedd yn cael ei siarad llai a llai gan ei gyfoeswyr ynn y dosbarth uchaf.[2]
Cyhoeddi
[golygu | golygu cod]Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod oes Wiliems, er gwaethaf ymdrechion cyfaill Wiliems, John Edwards (o Blas Newydd, Y Waun), a lwyddodd i wneud copi llawysgrif taclusach (Brogyntyn MSS 9 a 10). Gadawodd Wiliems lawysgrif y geiriadur i Syr John Wynn, a'i trosglwyddodd i John Davies o Fallwyd, gan ofyn i Davies ei gyhoeddi, gan roi cydnabyddiaeth i'r awdur a chyflwyniad i Syr John ei hun.[1] Roedd John eisoes yn ymgymryd ag ysgrifennu geiriadur Cymraeg-Lladin ac yn y pen draw cyhoeddodd dalfyriad o eiriadur Lladin-Cymraeg Wiliems yn ail ran ei eiriadur ei hun, a ddaeth i'r amlwg fel Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex ('Y Geiriadur Deublyg') ym 1632.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Geiriadur i gadw’r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg Darlith gan Yr Athro Ann Parry Owen ar wefan Youtube Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2025
- Y Geiriadur yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol manylion archif a chatalog
- 6 Disgrifiad archifol canlyniad ar gyfer Welsh language -- Dictionaries -- Early works to 1700 Casgliadau archifol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 “Wiliems, Thomas (b. 1545/6?, d. in or before 1623?),” J. E. Caerwyn Williams in Oxford Dictionary of National Biography, ed. H. C. G. Matthew and Brian Harrison (Oxford: OUP, 2004); online ed., ed. David Cannadine, October 2005, http://0-www.oxforddnb.com/view/article/29549 (accessed 28 Awst 2017)
- ↑ Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, ed. T. H. Parry Williams (1954).
- ↑ Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).