Theremin
Gwedd
| Enghraifft o: | math o offeryn cerdd |
|---|---|
| Math | offeryn cerdd electronig, analogue synthesizers and other electronic instruments with thermionic valve (vacuum-tube) based devices generating and/or processing electric sound signals, continuous-pitch instrument |
| Yn cynnwys | antenna |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/07kc_ |

Offeryn cerdd electronig yw theremin. Fe'i enwir ar ôl ei ddyfeisiwr, Leon Theremin, a'i dangosodd gyntaf yn yr Undeb Sofietaidd yn 1920.[1]
Rheolir yr offeryn gan ddau antena metel sy'n synhwyro safle dwylo'r chwaraewr, sydd wedi'u hymestyn o'i flaen, heb gyffwrdd â'r offeryn o gwbl. Maer antenâu yn gweithredu fel hanner cynhwysydd; mae dwylo'r chwaraewr yn gweithredu fel ei hanner arall. Mae un llaw yn rheoli amledd osgiliadur; mae'r llall yn rheoli ei osgled (uchelder). Mae'r signalau trydanol o'r theremin yn cael eu mwyhau a'u hanfon at uchelseinydd.
Chwaraewr theremin Americanaidd yw Mano Divina Giannone[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Irina Aldoshina ac Ekaterina Davidenkova, The History of Electro-Musical Instruments in Russia in the First Half of the Twentieth Century, Proceedings of the Second Vienna Talk, 19–21 Medi 2010
- ↑ "Theremin | Divine Hand Ensemble". Singing Electricity (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-01.