Perthnasedd cyffredinol

Oddi ar Wicipedia
Perthnasedd cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldamcaniaeth wyddonol, deddf ffiseg Edit this on Wikidata
Rhan odamcaniaeth perthnasedd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1916 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshafaliadau maes Einstein Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Damcaniaeth sy'n ymwneud â disgyrchiant wedi'i sgwennu gan Albert Einstein ar 25 Tachwedd 1915 ydy'r ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol (Saesneg: General relativity).[1] Mae'n parhau i fod yn berthnasol i Ffiseg ac yn cael ei ddefnyddio fel y disgrifiad cyfredol, diysgog o ddisgyrchiant mewn ffiseg fodern.

Albert Einstein yn 1921.
Darlun gwneud o dwll du - golygfa o bellter o 600 cmilometer.

Mae'n cyffredinoli damcaniaeth arall a sgwennwyd gan Einstein, sef y ddamcaniaeth perthnasedd arbennig a deddfau Isaac Newton ar ddisgyrchiant, gan gynnig disgrifiad o ddisgyrchiant fel rhan hanfodol o ofod ac amser gofodol. Dywed fod cromlin amser gofodol yn perthyn yn uniongyrchol i'r pedwar momentwm: egni mas, momentwm llinell, mater ac ymbelydredd. Mae'r berthnasedd rhyngddynt yn cael ei ddisgrifio gan hafaliadau Einstein, sef system o ran-hafaliadau gwahaniaethol (partial differential equations).[2]

Mae'r ddamcaniaeth yn wahanol i'r damcaniaethau a gafwyd cyn 1915 yn y meysydd canlynol: amser, geometreg gofol, symudiad mas rhydd, a lledaeniad golau. Hyd yma mae'r rhagfynegiadau a gyflwynodd Einstein, yn dal dŵr ac yn gywir heddiw (2015), a hynny ym mhob arsylwad ac arbrawf a wnaeth. Nid dyma'r unig ddamcaniaeth ar ddisgyriachant, hwn yn sicr yw'r symlaf, ac agosaf at ganlyniadau data arbrofion ledled y byd. Fodd bynnag, ceir cwestiynau heb eu hateb, er enghraifft: sut y medrir cysoni deddfau ffiseg cwantwm a perthnasedd cyffredinol er mwyn cwbwlhau un ddamcaniaeth gyflawn, sy'n gyson hefyd i ddamcaniaeth 'cwantwm disgyrchiant'.

Mae i'r ddamcaniaeth hon oblygiadau pellgyrhaeddol o ran astroffiseg. Er enghraifft, mae'n awgrymu bodolaeth y twll du, ble mae gofod ac amser yn cael eu warpio cymaint fel nad oes unrhyw beth, nid hyd yn oed golau, yn medru dianc ohono. Ceir peth tystiolaeth o fodolaeth tyllau du e.e. ceir ymbelydredd dwys a allyrir gan rai gwrthrychau yn y gofod oherwydd bodolaeth y twll du seryddol.[3] Mae perthnasedd cyffredinol hefyd yn rhagweld bodolaeth tonnau disgyrchiol (gravitational waves) a pulsar timing arrays; mae hefyd yn sail i'r gred fod y bydysawd yn ehangu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Prifysgol Aberystwyth.
  2. Pais 1982, ch. 9 to 15, Janssen 2005; ailgyhoeddwyd llawer o waith Eisnstein yma Renn 2007; disgrifiad cyffredinol o'r perthnasedd cyffredinol: Renn 2005, tt. 110ff. Erthygl allweddol: Einstein 1907, cf. Pais 1982, ch. 9. Hafaliad maes: Einstein 1915, cf. Pais 1982, ch. 11–15
  3. Schwarzschild 1916a, Schwarzschild 1916b a Reissner 1916 (gorffennwyd yn ddiweddarach yn: Nordström 1918)