Theatr yr Ymylon
| Crëwr | criw o actorion gan gynnwys David Lyn |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1972 |
| Daeth i ben | 1978 |
| Dynodwyr | |
Cwmni theatr o Gymru a sefydlwyd ym 1972 oedd Theatr Yr Ymylon.[1] Ymysg y criw o actorion a ddaeth ynghyd i'w chreu roedd David Lyn, Meic Povey, Christine Pritchard, Huw Ceredig a Geraint Jarman. Fel awgryma'r enw, llwyfannu dramâu llai adnabyddus ac arlwy wahanol i brif ffrwd theatr y cyfnod oedd y pennaf fwriad. Pan ddaeth y cwmni i ben, sefydlwyd cwmnïau tebyg i Theatr Bara Caws i barhau â'r weledigaeth. Llwyfannwyd cynyrchiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Daeth y cwmni i ben ym 1978.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ym 1972 sefydlwyd y cwmni, yn ôl Meic Povey, er nad oedd y cychwyn mor llyfn ag y dymunent. "Dai [David Lyn] oedd y corwynt creadigol fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Theatr yr Ymylon: gŵr carismataidd, amryddawn, arweinydd ac ysgogwr naturiol. Roedd bron yn amhosib dweud 'na' wrtho. Er mai sefydlu cwmni cydweithredol oedd y bwriad ar y cychwyn, buan iawn aeth yn fand un-dyn, gyda Dai [David Lyn] yn ben bandit."[2]
"Yr unig gwmni theatr proffesiynol Cymraeg bryd hynny oedd Cwmni Theatr Cymru ym Mangor", cofiai John Pierce Jones yn ei hunangofiant, "ac roedd rhai o'r actorion, ysgrifenwyr ac ati a oedd yn byw yng Nghaerdydd a'r cylch yn teimlo y dylent gael theatr cyfrwng Cymraeg yn y Brifddinas. Dyna'r ysbrydoliaeth tu ôl i ffurfio Theatr yr Ymylon", ychwanegodd.[3]
Ond mae'n amlwg hefyd nad oedd Wilbert Lloyd Roberts yn hapus o gwbl, ac yn gweld y cwmni theatr newydd yma fel bygythiad i Gwmni Theatr Cymru. Povey sy'n cofio helynt arall ym 1972, pan ymwelodd Wilbert â'r ymarferion yn annisgwyl : "Roedd wedi tuthio o'r gogledd oer i roi mymryn o ddarlith i'r criw haerllug a fynnai herio'i oruchafiaeth. Nid darlith chwaith, ond apêl: crefu arnom i roi'r gora iddi (ar ôl y cynhyrchiad agoriadol), gan rybuddio y byddai cwmni theatr arall yn arwain at rwyg a fyddai'n bwydo dialedd ein gelynion [...] Ofer fu'r apêl. Bu Theatr yr Ymylon mewn bodolaeth am wyth mlynedd".[2]
Nododd Lisa Rhiannon Edwards mewn erthygl yn Barn [Tachwedd 1976] "Yn y tair blynedd ddiwethaf mae hi [Theatr yr Ymylon] wedi aros ar y ffordd ansicr honno, heb yr adnoddau i sefydlu ei hun yn iawn gan nad yw'n barod i ddod yn rhan o'r sefydliad. Efallai mai camarweiniol yw galw'r cwmni'n Ymylon, gan y dywed rhai nad oes canol i'r theatr yng Nghymru inni dorri oddi wrtho. Mae egni a chyfeiriad Theatr yr Ymylon wedi dod ers y cychwyn, o du'r actorion. Teimlai David Lyn, sydd yn awr yn gyfarwyddwr artistig, y dôi gwaith mwy democrataidd a mwy perthnasol i gymdeithas o gwmni'n cael ei redeg gan grŵp yn hytrach na chan unigolyn."[4]
Cyflwyno gwaith dwyieithog oedd tranc y cwmni, yn ôl Meic Povey. "Ar bapur, purion; mewn realaeth, anymarferol. 'Tydi dwyieithrwydd ddim ond yn gweithio os ydach chi'n medru'r ddwy iaith, a'r munud mae ganddoch chi Gymro di-Gymraeg yn rhedeg y sioe (fel yn achos Norman Florence o tua 1976 ymlaen), yna mae un iaith yn bownd o ffynnu ar draul y llall, a'r iaith Gymraeg oedd honno wrth reswm pawb."[2]
Ymysg y dramodwyr fu'n cyfrannu i'w cwmni roedd Meic Povey.[2]
Rhyddhawyd record gan y cwmni ym 1973 a 1978.[5][6]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Cofia'r actor Stewart Jones fod yn rhan o gynhyrchiad o'r ddrama Siwan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd ym 1978. Honodd yn ei hunangofiant bod rheolwr y cwmni ar y pryd [Norman Florence] wedi dymuno llwyfannu'r ddrama yn Gymraeg a Saesneg. "...ac felly y bu. Roedden ni'n agor yn Gymraeg ar y noson gyntaf ac i Saesneg yr ail noson, oedd yn dipyn o dreth arnom ni gyd."[7]
Aeth y cwmni ymlaen i lwyfannu Gymerwch chi Sigaret? yn ddwyieithog hefyd. "I ba ddiben, Duw â ŵyr", cofia Stewart Jones. "Eleanor Roberts, oedd yn gweithio i'r cwmni fel rheolwr llwyfan, gymrodd y cyfrifoldeb o gyfieithu'r ddrama, ac mi wnaeth gyfieithiad ardderchog". Ond yn anffodus, wedi cychwyn ymarfer a dysgu, cyffesa "nad oedden ni ddim hyd yn hyn wedi cael sêl bendith Saunders Lewis ei hun ar y cyfieithiad Saesneg. Felly bu rhaid i gynrychiolwyr y cwmni deithio i'w gartref ym Mhenarth i ymweld â'r gwron. Doedd o ddim yn ymweliad llwyddiannus. Yr ateb gawson nhw oedd bod yna gyfieithiad o Gymerwch chi Sigarét? yn bod yn barod ac mai hwnnw, a dim ond hwnnw, fyddai'n cael sêl bendith y dramodydd."[7]
1970au
[golygu | golygu cod]- Yr Aderyn (1972) gan Meic Povey; cyfarwyddwr David Lyn
- Yr Agoriad (1972) gan Bernard Evans; cyfarwyddwr Nesta Harris
- Teyrnged i Saunders Lewis (1973) cast Christine Pritchard, Stewart Jones,
- Twm Sion Cati (1974)[8]
- Testimonals ( ) cyfarwyddwr Gareth Jones
- My People ( ) cyfarwyddwr Gareth Jones
- Madam Wen (1975) cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Ken Leech a Chris Brown; goleuo Howell Watkins; gwisgoedd Anne Fowler a Felicity Shepherd; cerddoriaeth Nick McGeegan a Nigel Ellacott; cast : Christine Pritchard, John Prior, Shirley King, Sarah Reynolds, Frank Lincoln, Eilian Wyn, Stewart Jones, Robin Griffith, Christopher Davies, Nigel Ellacott.[9]
- The Maid Of Cefn Ydfa
- Terfyn (1978) drama Meic Povey; cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cast: Elliw Haf a Mei Jones.[2]
- Dic Penderyn (1978)
- Small Change (1978) gan Peter Gill
- Shifts (1978) gan John L Hughes
- Cariad Creulon (1978)
- Siwan (1978) drama Saunders Lewis; cast Iola Gregory, Stewart Jones, Ian Saynor a Marged Esli
- Gymerwch Chi Sigaret? (1979) drama Saunders Lewis; cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen; cast: Stewart Jones, Eluned Jones, Meic Povey, Christine Pritchard a John Pierce Jones.
- Y Cadfridog (1978) - gan Meic Povey; cyfarwyddwr Meredith Edwards; cast Stewart Jones ac Ian Saynor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "THEATR YR YMYLON LIMITED - Charity 503948". register-of-charities.charitycommission.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Povey, Meic (2010). Nesa Peth At Ddim. Carreg Gwalch. ISBN 9781845272401.
- ↑ Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.
- ↑ Edwards, Lisa Rhiannon (Tachwedd 1976). "Theatr yr Ymylon Heddiw". Barn 166.
- ↑ "THEATR_YR_YMYLON". www.7tt77.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-04.
- ↑ https://www.albumoftheyear.org/album/935026-theatr-yr-ymylon-blodeuwedd.php. Missing or empty
|title=(help) - ↑ 7.0 7.1 Jones, Stewart Whyte McEwan (2001). Dwi'n Deud Dim, Deud Ydw I. Gwasg Gwynedd. ISBN 978-0860741794.
- ↑ "SHERMAN STORY TIMELINE". Sherman Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-04.
- ↑ "PANTO 1975-76". It's Behind You Dot Com - Green Room (yn Saesneg). 2020-05-07. Cyrchwyd 2024-09-04.