Neidio i'r cynnwys

Theatr Tsieineaidd Grauman

Oddi ar Wicipedia
Theatr Tsieineaidd Grauman
Mathsinema Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol18 Mai 1927 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 Mai 1927 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLos Angeles Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau34.1019°N 118.3408°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethLos Angeles Historic-Cultural Monument, National Register of Historic Places contributing property Edit this on Wikidata
Manylion

Palas ffilm yw'r Theatr Tsieineaidd Grauman, a elwir hefyd y Theatr Tsieineaidd TCL am resymau hawliau enwi), ar y "Walk of Fame" enwog ym 6925 Hollywood Blvd. yn Hollywood, Los Angeles.

Comisiynwyd y Theatr Tsieineaidd wreiddiol yn dilyn llwyddiant Theatr yr Aifft Grauman gerllaw, a agorodd ym 1922. Mae'r ddau yn yr arddull pensaernïaeth a elwir yn Adfywiad Egsotig.[1] Cafodd ei hadeiladu gan bartneriaeth o dan arweiniad Sid Grauman dros 18 mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 1926. Agorodd y theatr 18 Mai 1927, gyda noson agoriadol The King of Kings gan Cecil B. DeMille.[2] Ers hynny mae wedi bod yn gartref i lawer o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys lansiad Star Wars ym 1977,[3] yn ogystal â phartïon pen-blwydd, dathliadau busnes, a thair seremoni Gwobrau Academi. Ymhlith nodweddion mwyaf nodedig y theatr yw'r blociau concrit a osodir yn y cwrt blaen, sy'n cynnwys llofnodion, olion traed, ac olion llaw enwogion byd ffilm poblogaidd o'r 1920au hyd heddiw.

Fe'i henwyd yn Theatr Tsieineaidd Grauman yn wreiddiol, yna cafodd ei ailenwi yn Theatr Tsieineaidd Mann ym 1973; parhaodd yr enw tan 2001, ac wedi hynny dychwelodd i'w enw gwreiddiol. Ar Ionawr 11, 2013, prynodd gwneuthurwr electroneg Tsieineaidd Corfforaeth TCL hawliau enwi'r adeilad.[4]

Yn 2013, dechreuodd y theatr partneriaeth gydag IMAX i drosi'r tŷ yn theatr IMAX. Mae'r gan y theatr nawr gynhwysedd eistedd o 932 person, ac yn cynnwys un o'r sgriniau ffilm mwyaf yng Ngogledd America.

Ar ôl ei lwyddiant gyda Theatr yr Aifft, prynodd Sid Grauman a Charles E. Toberman prydles hirdymor ar 6925 Hollywood Blvd., a oedd safle plas Bushman.[5] Mewn gwerthfawrogiad, gosodwyd plac ar du blaen y theatr er barch i Bushman.

Fe gontractiodd Toberman y cwmni Meyer & Holler, dylunydd y Theatr yr Aifft, i ddylunio "theatr debyg i balas" gyda dyluniad Tsieineaidd. Ariannodd Grauman gost $2.1 miliwn y theatr.[5] Y prif bensaer oedd Raymond M. Kennedy o'r cwmni Meyer & Holler.

Yn ystod y gwaith adeiladu, cyflogwyd Jean Klossner i ffurfio concrit caled iawn ar gyfer cwrt blaen y theatr. Mae'r theatr yn enwog am gael olion traed, olion llaw, a llofnodion wedi gwasgu yn y concrit.[6]

Mae yna nifer o straeon yn bodoli i egluro gwreiddiau'r olion traed. Mae cyfrif swyddogol y theatr yn priodoli Norma Talmadge fel ysbrydoliaeth y traddodiad pan gamodd hi i mewn i'r concrit gwlyb ar ddamwain.[7] Fodd bynnag, mewn cyfweliad byr ar 13 Medi 1937 ar Lux Radio Theatre, adroddodd Grauman fersiwn arall o sut y cafodd y syniad i roi printiau llaw a thraed yn y concrit. Dywedodd ei fod yn "ddamwain pur. Cerddais yn syth ynddo. Tra roeddem yn adeiladu'r theatr, ar ddamwain nes i gamu mewn rhywfaint o goncrit meddal. Felly, es i at Mary Pickford ar unwaith. Rhoddodd Mary ei throed ynddo."[8]

Mae cyfrif arall gan Klossner yn adrodd bod Klossner wedi llofnodi ei waith wrth ymyl y ciosg poster ar y dde, a bod Grauman ac ef a ddatblygodd y syniad bryd hynny.[9] Mae ei lofnod a'i ôl-law, wedi dyddio i 1927, yn parhau heddiw. Yn 1949 newidiodd stori Klossner i ddweud taw Grauman gwnaeth camu i'r concrit gwlyb ar ddamwain.[10]

Cafodd Theatr Tsieineaidd ei datgan yn dirnod hanesyddol a diwylliannol ym 1968, ac mae wedi mynd trwy amryw o brosiectau adfer yn y blynyddoedd ers hynny. Prynodd Ted Mann, perchennog cadwyn theatrau Mann Theatres (a gŵr yr actores Rhonda Fleming) y Theatr Tsieineaidd ym 1973. O bryd hynny tan 200, fe'i gelwid yn Theatr Tsieineaidd Mann.[11] O 1986 tan 2011 newidiodd berchnogion nifer o weithiau.[12][13][14][15][16][17][18]

Mae tu allan y theatr i fod i edrych yn debyg i bagoda Tsieineaidd coch anferth. Mae'r dyluniad yn cynnwys draig Tsieineaidd ar draws y ffasâd, gyda dau lew Brenhinlin Ming yn gwarchod y brif fynedfa, a silwetau dreigiau bach ar hyd ochrau'r to copr. Y syniad oedd rhoi ymdeimlad o China, rhywbeth nad oedd y mwyafrif o Americanwyr yn gwybod fawr ddim amdani.[19] Mae'r awditoriwm wedi'i adfer yn llwyr, ynghyd â llawer o'r tu allan.

Cynhaliodd y Theatr Tsieineaidd seremonïau Gwobrau Academi 1944, 1945, a 1946; maent bellach yn cael eu cynnal yn Theatr Dolby gyfagos, a elwid gynt yn Theatr Kodak.[20]

Olion dwylo

[golygu | golygu cod]
Mae nifer o lofnodion hŷn yn cynnwys negeseuon personol i Sid Grauman, fel cyfraniad Myrna Loy yn 1936. Swydd gyntaf Loy oedd dawnsiwr yn y theatr yn y 1920au.

Mae bron i 200 o olion dwylo, olion traed a llofnodion enwogion Hollywood yng nghoncrit cwrt blaen y theatr. Fairbanks a Pickford oedd y cyntaf, a chafodd ei wneud ar 30 Ebrill 1927.[21]

Olion traed Anthony Quinn tu allan i'r Theatr Tsieineaidd.

Mae hefyd nifer o amrywiadau o'r traddodiad hwn. Mae'r rhain yn cynnwys gwasgnodau sbectol Harold Lloyd, sigâr Groucho Marx, 'dreadlock' Whoopi Goldberg, y ffyn hyd a ddefnyddir gan sêr Harry Potter Daniel Radcliffe, Rupert Grint ac Emma Watson, proffil wyneb John Barrymore (yn adlewyrchu ei lysenw "The Great Profile"), a choesau Betty Grable. Gadawodd sêr ffilmiau'r gorllewin gwyllt William S. Hart a Roy Rogers gwasgnodau o'u drylliau. Gadawodd Herbie, Volkswagen Beetle, gwasgnodau ei deiars. Gadawodd gwasgnodau carnau "Tony", ceffyl Tom Mix, "Champion", ceffyl Gene Autry, a "Sbardun", ceffyl Roy Rogers, yn y concrit wrth ymyl printiau'r sêr a'u marchogodd yn y ffilmiau.[22][23]

Er 2011, mae nifer enfawr o seremonïau concrit wedi digwydd. Cafwyd nifer ohonynt eu talu gan y stiwdios ffilm am resymau cyhoeddusrwydd. Fe wnaeth un o berchnogion presennol y theatr, Donald Kushner, gydnabod hwn a chyfeirio atynt fel ffug seremonïau.[24] Mae'r mewnlifiad hwn wedi bod yn destun pryder i arbenigwyr ffilm a haneswyr, yn ogystal â bod yn gamarweiniol i ffans. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd mewn blociau concrit, mae'r rhai a roddir yn y cwrt blaen yn dal i gael eu dewis gan bwyllgor arbennig sy'n dewis enwogion yn seiliedig ar eu cyfraniadau i sinema Hollywood.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chinese Thater", Los Angeles Conservancy
  2. "Chinese Theatres – History". Mann Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-31. Cyrchwyd 2014-02-04.
  3. "Today in History: Star Wars Premieres in 1977". Lomography.com. 25 Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-21. Cyrchwyd 2014-02-04.
  4. Verrier, Richard (11 Ionawr 2013). "China firm buys naming rights to Grauman's Chinese Theatre". Los Angeles Times. Cyrchwyd 4 Chwefror 2014.
  5. 1 2 King, Susan (11 Mai 2017). "Celebrating 90 years of Hollywood history on the Chinese Theatre's anniversary". Los Angeles Times. Cyrchwyd 18 Mai 2017.
  6. Spicer, Chrystopher J. (2011-10-14). Clark Gable, in Pictures: Candid Images of the Actor's Life. McFarland. t. 47. ISBN 9780786487141.
  7. Davis, Laura E. (13 Mawrth 2014). "Throwback Thursday: The story behind stars' handprints in Hollywood". Los Angeles Times. Cyrchwyd 15 Ebrill 2019.
  8. Endres, Stacey; Cushman, Robert (2009-06-01). Hollywood at Your Feet: The Story of the World-Famous Chinese Theater. Pomegranate Press. ISBN 9780938817642.
  9. Haver, Ronald (November 1971), Out of the Past: Mr. Grauman's Chinese Theater, First Los Angeles International Film Exposition, http://www.graumanschinese.org/out.html, adalwyd 2019-04-15
  10. Kishi, Russell (1988-09-18). "Chinese Theater: The Tourists Still Make Tracks to Hollywood Shrine". Los Angeles Times. Cyrchwyd 15 Ebrill 2019.
  11. "Ted Mann, 84, Who Owned Theater Where the Stars Preserve Their Prints". New York Times. 22 Ionawr 2001. Cyrchwyd 2019-04-19.
  12. "Chinese Theatres – History". Mann Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-31. Cyrchwyd 2014-02-04.
  13. "Company News; G.&W. Acquisition". New York Times. 18 Hydref 1986. Cyrchwyd 2019-04-19.
  14. "Company News; Warner to Buy Theater Stake". New York Times. 20 Chwefror 1987. Cyrchwyd 19 Ebrill 2019.
  15. "'Chinese Theatre' owner agrees to acquisition by WestStar Holdings". AP News. 25 Tachwedd 1997. Cyrchwyd 2019-04-19.
  16. "Studio Partnership Buys Mann Theatres". Los Angeles Times. January 13, 2000. Cyrchwyd 2014-02-04.
  17. "Grauman's Chinese Theatre". Behr Browers Architects. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-12. Cyrchwyd 2014-02-04.
  18. Miller, Daniel (28 Ebrill 2011). "Grauman's Chinese Theatre to Be Sold to Producers Elie Samaha, Don Kushner". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 4 Chwefror 2014.
  19. Cornfield, Gregory (2017-05-10). "90 years of Lights, Camera, Action!". Beverly Press. Cyrchwyd 2019-04-15.
  20. "Academy Awards, USA". The Internet Movie Database. Cyrchwyd 17 Ebrill 2007.[dolen farw]
  21. "Imprint Ceremonies Archive". TCL Chinese Theatres. Cyrchwyd 2019-04-15.
  22. Conradt, Stacy (2011-04-29). "The Quick 10: 10 Interesting Prints at Grauman's Chinese Theater". Mental Floss. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-23. Cyrchwyd 2019-04-15.
  23. Woerner, Meredith (2017-05-18). "All the Hollywood secrets hidden in the handprints at the Chinese Theatre's Forecourt of the Stars". Los Angeles Times. Cyrchwyd 15 Ebrill 2019.
  24. Kaufman, Amy (29 Rhagfyr 2011). "Grauman's Chinese: Movie star prints' futures not set in cement". Los Angeles Times. Cyrchwyd 20 Medi 2012.