Neidio i'r cynnwys

Theatr Genedlaethol Frenhinol

Oddi ar Wicipedia
Theatr Genedlaethol Frenhinol
Y Ganolfan o Bont Waterloo
Enwau blaenorolNational Theatre Company (while based at the Old Vic from 1963)
CyfeiriadUpper Ground, South Bank
Llundain
Prydain
DynodiadGrade II*
MathNational theatre
Eisteddleoedd
  • Theatr Olivier: 1,160 seddau
  • Lyttelton: 890 seddau
  • Dorfman: 400 seddau
Cost codi
Agorwyd1976; 50 mlynedd yn ôl (1976) (building)
Pensaer/i
Website
nationaltheatre.org.uk

Cwmni Theatr Cenedlaethol Lloegr a lleoliad cyflwyno'r celfyddydau yn Llundain yw'r Theatr Genedlaethol Frenhinol (Saesneg: National Theatre (NT) neu Royal National Theatre ers 1988, ac weithiau'n cael ei galw'n National Theatre of Great Britain[1][2][3][4]). Sefydlwyd y cwmni a'r sefydliad gan Laurence Olivier ym 1963 ac mae llawer o actorion adnabyddus wedi perfformio gyda hi ers hynny, gan gynnwys actorion amlwg o Gymru fel Michael Sheen, Christopher Timothy[5] a Syr Anthony Hopkins.

Hyd 1976, roedd y cwmni wedi'i leoli yn theatr yr Old Vic yn Waterloo. Mae'r adeilad presennol wedi'i leoli ger yr afon Tafwys yn ardal South Bank yng nghanol Llundain, ac yn cynnwys tair theatr unigol - Yr Olivier, Y Lyttleton a'r Dorfman. Yn ogystal â pherfformiadau yn y ganolfan ei hun, bu'r cwmni yn teithio cynyrchiadau i theatrau ledled y Deyrnas Unedig.[1] Trosglwyddwyd nifer o gynyrchiadau i Broadway a rhai wedi teithio cyn belled â Tsieina, Awstralia a Seland Newydd. Ataliwyd cynyrchiadau teithiol i ddinasoedd Ewropeaidd ym mis Chwefror 2021 oherwydd pryderon ynghylch ansicrwydd trwyddedau gwaith, costau ychwanegol ac oedi oherwydd Brexit.[2]

Cafwyd caniatâd i arddel ac ychwanegu'r rhagddodiad "Royal" at enw'r theatr ym 1988,[1] ond anaml y defnyddir y teitl llawn. Mae'r theatr yn cyflwyno rhaglen amrywiol, gan gynnwys Shakespeare, dramâu clasurol rhyngwladol a dramâu newydd gan ddramodwyr cyfoes. Gall pob awditoriwm yn y theatr gynnal hyd at dair sioe yn y repertoire, gan ehangu ymhellach nifer y dramâu y gellir eu perfformio yn ystod unrhyw un tymor.

Ym mis Mehefin 2009, sefydlwyd National Theatre Live (NT Live) sef rhaglen o ddarllediadau cydamserol o gynyrchiadau byw i sinemâu, yn gyntaf yn y Deyrnas Unedig ac yna'n rhyngwladol.[1] Dangosir cynyrchiadau o Lundain mewn sinemâu a chanolfanau yng Nghymru yn ogystal.

Cyfarwyddyddion Artistig

[golygu | golygu cod]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

1948 - 1977

[golygu | golygu cod]

Fel gyda hanes sefydlu Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003 a National Theatre Wales yn 2009, bu cryn drafod a chrefu am Theatr Genedlaethol yn Lloegr yn ogystal. Ym 1948, cyflwynodd Cyngor Sir Llundain (LCC) safle gerllaw Neuadd y Festival Hall at y diben, a pasiwyd Deddf Theatr Genedlaethol 1949 gan gynnig cefnogaeth ariannol, gan y Senedd.[6] Ddeng mlynedd ar ôl gosod y garreg sylfaen ym 1951, datganodd y llywodraeth na allai'r genedl fforddio Theatr Genedlaethol; mewn ymateb, cynigiodd yr LCC hepgor unrhyw rent a thalu hanner y costau adeiladu. Ym mis Gorffennaf 1962, sefydlwyd Bwrdd i oruchwylio'r gwaith adeiladu, a ffurfiwyd Bwrdd ar wahân i redeg y Cwmni Theatr Cenedlaethol arfaethedig a fyddai'n prydlesu theatr yr Old Vic yn y cyfamser. Agorodd y Cwmni Theatr Cenedlaethol ar 22 Hydref 1963 gyda chynhyrchiad o Hamlet, gyda Peter O'Toole yn serennu.[7] Sefydlwyd y cwmni gan Laurence Olivier, a ddaeth yn gyfarwyddwr artistig cyntaf y cwmni. Ymhlith yr ensemble cyntaf o actorion y cwmni roedd Maggie Smith, Joan Plowright, Michael Gambon, Lynn Redgrave a Michael Redgrave. Yn y cyfamser, ymlaen aeth yr adeiladu o'r brif ganolfan theatr barhaol gyda dyluniad gan y penseiri Syr Denys Lasdun a Peter Softley a'r peirianwyr strwythurol Flint & Neill yn cynnwys tair llwyfan, a agorwyd yn unigol rhwng 1976 a 1977.[8]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Laurence Olivier

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Peter Hall

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Richard Eyre

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Trevor Nunn

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Nic Hytner

[golygu | golygu cod]

The Curious Incident of the Dog in the Night-Time gan Simon Stephens, addasiad o'r nofel gyda Luke Treadaway, Nicola Walker, Niamh Cusack a Paul Ritter (2012).[12] Mewn cynhyrchiad diweddarach, bu'r actor o Gymru Siôn Daniel Young yn y brif ran.

Cyfnod Rufus Norris

[golygu | golygu cod]

Cyfnod Indhu Rubasingham

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 "National Theatre of Great Britain". www.nationaltheatre.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-01.
  2. 1 2 Fisher, Mark (2019-01-15). "Stage of the nation: what does it mean to be a national theatre?". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-05-01. The national theatres of Great Britain, Scotland, Wales and Ireland have all caused a stir about what they represent.
  3. Kruger, Loren (1987). ""Our National House": The Ideology of the National Theatre of Great Britain". Theatre Journal 39 (1): 35–50. doi:10.2307/3207619. ISSN 0192-2882. https://www.jstor.org/stable/3207619.
  4. Lister, David (11 Ionawr 2003). "Wales and Scotland need a cultural revolution". The Independent. London.
  5. "Passed/Failed: An education in the life of the actor Christopher Timothy". The Independent (yn Saesneg). 15 Ionawr 2009. Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.
  6. Findlater, Richard The Winding Road to King's Reach (1977), also in Callow. Retrieved 1 July 2008.
  7. "Monitor - Prince of Denmark". BBC. Archived from the original on 20 March 2021. Retrieved 9 August 2020.
  8. "Denys Lasdun and Peter Hall talk about the building - History of the NT - National Theatre". www.nationaltheatre.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-22. Cyrchwyd 2026-07-01.
  9. "Tolstoy's epic novel "War and Peace" has been reduced to just a few hours on stage | the Independent | the Independent". Independent.co.uk. 7 Chwefror 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2021. Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.
  10. "Coram Boy, National Theatre, London | the Independent". Independent.co.uk. 21 Rhagfyr 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2019. Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.
  11. One Man, Two Guvnors Archifwyd 8 Mehefin 2012 yn y Peiriant Wayback. Onemantwoguvnors.com.
  12. The Curious Incident of the Dog in the Night-Time Archifwyd 23 Gorffennaf 2012 yn y Peiriant Wayback. Royal National Theatre.
  13. King Lear Royal National Theatre.
  14. "Les Blancs | National Theatre". www.nationaltheatre.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2021. Cyrchwyd 2020-06-12.
  15. Paulson, Michael (19 Ebrill 2018). "The Underworld Will Stop in London en Route to Broadway". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2021. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  16. Swain, Marianka (15 Chwefror 2024). "Dear Octopus: Lindsay Duncan is a catty delight in this forgotten West End hit". telegraph.