Byw yn y Wlad oedd enw cynhyrchiad cyntaf Theatr Antur. Mae peth anghytuno ynghylch pwy yn union oedd yn gyfrifol am y syniad craidd, gyda rhai yn honni mai syniad Wilbert Lloyd Roberts ei hun oedd o, tra bod eraill yn taeru mai'r actorion ifanc eu hunain oedd wedi gofyn i Wilbert greu'r is-gwmni. Mae'r "newid" a ddaeth yn sgil Theatr Antur yn cael ei grybwyll mewn erthygl gan Emily Davies yn Barn [Medi 1976] wrth adolygu arlwy'r ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976:
"Am y tro cyntaf erioed 'roeddwn yn ymwybodol fod yna actorion a chynhyrchwyr wedi trwytho'u hunain yn eu gwaith; eu bod wedi ceisio ymarfer, disgyblu a pherffeithio'u rheolaeth dros eu dawn yn gorff, dychymyg ac enaid. 'Roeddynt wedi llwyddo i fynnu digonedd o amser i alluogi grŵp o unigolion i droi'n uned ymroddgar [...] Pwy yw'r bobl ifanc yma sydd wedi gweld yr angen am newid? Yn sicr pobl ydynt sydd wedi cael yr amser i fyfyrio dros ddatblygiadau byd-eang ym myd y ddrama, ac wedi derbyn y cyfle i ymarfer, darganfod ac arbrofi. Pobl sydd yn gwybod beth o'r gloch yw hi ym myd y theatr Gymraeg; a'i bod yn hen bryd i edrych i'r dyfodol yn hytrach na'r gorffennol. Pobl ydynt sydd wedi sylweddoli nad yw'r symud newydd yma yn mynd i ddatblygu o du yr actorion proffesiynol. Ag eithrio ychydig o'r rhai ifainc tebyg i aelodau cwmni Byw yn y Wlad, mae'r stad broffesiynol yn prysur lygru y theatr a'r cyfryngau"
Mae'r "pobl ifanc yma sydd wedi gweld yr angen am newid" y sonia Emily Davies amdanynt, yn adlais sicr o'r newid a fu yn hanes Cwmni Theatr Cymru ar gychwyn y 1980au.